Cymdeithas yr Iaith yn croesawu y newid llwyr ym mholisi ysgolion Gwynedd

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu datganiad y Cynghorydd Liz Saville (deiliad portffolio Addysg Cyngor Gwynedd) fod yr hen gynllun ad-drefnu ysgolion wedi dod i ben ac nad oes bellach unrhyw restr o ysgolion i'w cau, nac ychwaith gynlluniau gorfodi newid ar ysgolion eraill. Croesawn ei datganiaid yn siambr y Cyngor heddiw fod y Cyngor am symud ymlaen trwy gydsynio a thrwy gydweithio gyda Chynghrair Ysgolion Gwynedd a Chymdeithas yr Iaith. Dilewyd y cymal o'r cynnig yn gofyn i'r gweithgor newydd'llunio rhestr o ysgolion i'w cau.'