Cymdeithas yr Iaith yn cyhoeddi ‘Seminar Rhyngwladol’ i drafod yr argyfwng tai

Cyhoeddodd Walis George yn rali Nid yw Cymru ar Werth heddiw y bydd ‘Seminar Rhyngwladol ar yr Hawl i Dai Digonol a Deddf Eiddo’ yn cael ei chynnal gan Gymdeithas yr Iaith fis Hydref. 

Mi fydd llunwyr polisi cenedlaethol a lleol, sefydliadau tai, grwpiau diddordeb ac ymgyrchwyr yn cael eu gwahodd i drafod sut y mae ymdrin ag argyfyngau tai cyffelyb ar draws Ewrop.

Ymysg y siaradwyr gwadd i’r seminar bydd cyn-Bennaeth Tai Cyngor Dinas Barcelona, Javier Burón. Mr Burón oedd prif bensaer Cynllun Hawl i Dai y ddinas, sydd wedi’i ymgorffori yng nghyfraith ddomestig Catalonia ers 2007. Y bwriad yw rhoi cyfle i’r mynychwyr ddysgu o Javier a siaradwyr eraill.

Yn manylu ar ddiwygiadau Javier Burón yn Barcelona, dywedodd Walis George:

“Ers 2015, mae Barcelona wedi newid patrwm ei pholisi tai gan ddatblygu dull sy’n siapio’r farchnad i sicrhau ei swyddogaeth gymdeithasol; hynny yw, er mwyn ymestyn yr Hawl i Dai Digonol i bawb, bod angen newid y canfyddiad o dai fel ased ariannol ac yn hytrach ei weld fel angen hanfodol.

“Mabwysiadwyd Cynllun Hawl i Dai gyda’r amcan cyntaf i ddyblu maint stoc tai cymdeithasol Barcelona o fewn 10 mlynedd (erbyn 2025). Erbyn hyn, mae’n ofynnol i 30% o gartrefi newydd o fewn y stoc tai presennol, a 40% mewn datblygiadau newydd, i fod yn dai fforddiadwy. Mae'r Ddinas wedi dod yn brynwr allweddol yn y farchnad trwy ddeddfu'r hawl i'r gwrthodiad cyntaf a buddsoddi yn uniongyrchol mewn prynu adeiladau at ddibenion tai. Hefyd, mae’r Ddinas wedi arbrofi gyda threfn rheoli rhenti gan lwyddo lleihau rhenti 6% heb leihau’r cyflenwad tai.

“Dylai gweledigaeth ac uchelgais dinas Barcelona fod yn esiampl ac yn ysbrydoliaeth i Lywodraeth Cymru a holl awdurdodau lleol Cymru.”

Bydd mwy o fanylion am y seminar yn cael eu rhyddhau yn fuan.

Yn ystod ei araith, ategodd Walis George hefyd brif neges y rali:

“‘Dan ni’n gwybod yn iawn taw’r dogma neoryddfrydol hwn, sy’n rhoi gwneud elw o flaen anghenion pobl, yw prif achos yr argyfwng tai presennol.

“Mae Cymdeithas yn Iaith yn galw heddiw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys Deddf Eiddo yn y Papur Gwyn ar Hawl i Dai Digonol ac i basio’r ddeddfwriaeth yn ystod tymor y Senedd bresennol. Dim mwy o lusgo traed!”