Mewn ymateb i adroddiadau a phryderon bod dyfodol nifer o ysgolion cynradd gwledig Ceredigion dan fygythiad, dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith:
"O ystyried bod chwalfa cymunedau Cymraeg a diboblogi gwledig ymysg prif yrwyr dirywiad yr iaith Gymraeg yng Ngheredigion, mae asedau cymunedol megis ysgolion gwledig - sydd yn aml wrth galon y cymunedau hyn - yn bwysicach nag erioed.
"Mewn unrhyw gynlluniau ad-drefnu galwn ar y Cyngor i gydweithio gyda’n cymunedau er mwyn sicrhau dyfodol ffyniannus i’r cymunedau hynny a'r Gymraeg."