Cymdeithas yr Iaith yn Trefnu Priodas yn Sir Gâr

Wrth agor fforwm cyhoeddus "Gwaith i gynnal yr Iaith" heddiw, ddydd
Sadwrn 15/9, yn Llyfrgell Caerfyrddin, croesawodd Ffred Ffransis ar ran
Cymdeithas yr iaith yn Sir Gâr bawb at "dderbyniad priodas". Esboniodd wrth gynrychiolwyr cynghorau cymuned a mudiadau addysgol
a gwirfoddol -

"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu dwy drafodaeth gyfangwbl ar wahân
yn Sir Gâr. Bu llawer o drafod ar ddatblygu economaidd i greu swyddi, a
bu hefyd drafod ar strategaeth i hybu'r Gymraeg fel prif iaith y sir.
Ond does fawr dim cyswllt wedi bod rhwng y ddwy drafodaeth hyn,
heblaw am annog busnesau presennol i wneud defnydd o'r iaith. Rydyn ni
yma heddiw yn dystion i briodas rhwng y ddau hyn. Byddwn yn trafod pa
fath o ddatblygu economaidd y mae ei angen i gynnal yr iaith a
chymunedau Cymraeg, ac yn enwedig i leihau'r allfudiad o bobl ifainc o'r
sir. Nid unrhyw fath o ddatblygu economaidd, ond byddwn yn trafod pa
fath o ddatblygiadau ac ymhle er mwyn cynnal ein cymunedau a rhoi cyfle
i ieuenctid sy'n derbyn eu haddysg yn Gymraeg i ennill bywoliaeth yma hefyd"

Ar ran y Gymdeithas, bu d Wynfford Janes gynnig papur "Gwaith i
Gynnal yr Iaith" a bu ymatebion gan Cyng Emlyn Dole (arweinydd y
Cyngor Sir), Cyng Cefin Campbell (cadeirydd y gweithgor sy'n paratoi
adroddiad ar gymunedau gwledig y sir) a Rhodri Glyn Thomas - y cyn Aelod
Cynulliad a gyhoeddodd adroddiad ar y mater yn 2014.

Fel "ffafrau priodas", rhannwyd waffles Tregroes (a gynhyrchir gan Gymry
Cymraeg ym Mhont-tyweli) i bawb presennol. Dyma esiampl o fentr
eonomaidd sy'n codi o'r gymuned.

Mae lluniau i'w gweld yma