Cymorth cyntaf i'n cymunedau Cymraeg? Cymdeithas ar daith

Datgelwyd lluniau "ambiwlans" arbennig heddiw a fydd yn cludo ymgyrchwyr iaith o gwmpas y wlad fel rhan o ddathliadau hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Bydd taith "Tynged yr Iaith", a enwyd ar ôl anerchiad gan Saunders Lewis ac a sbardunodd sefydlu'r mudiad iaith, yn dechrau ar y daith o faes Eisteddfod yr Urdd ac yn trafod yr heriau i ddyfodol yr iaith ar lefel gymunedol.

Gwelwyd gostyngiad sylweddol yn nifer y cymunedau lle mae dros 70% yn siarad Cymraeg - gostyngiad o 92 yn 1991 i 54 yn 2001 - ac mae'r mudiad yn mynd i roi prif ffocws eu gwaith ar weithio gyda chymunedau i wyrdroi'r cwymp hynny.

Fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae'r hanner can mlynedd diwethaf wedi golygu fod rhyw fath o ddyfodol i'r Gymraeg ac felly nawr rydym yn gofyn pa fath o ddyfodol fydd i'r iaith. Er bod mwy yn derbyn addysg gyfrwng Gymraeg nid ydynt yn cael eu harfogi i ddefnyddio'r Gymraeg fel cyfrwng naturiol.

"Hoffwn felly ymestyn cyfle i bawb sydd yn poeni am ddyfodol ein cymunedau Cymraeg i ymuno â ni ar y daith. Rydym am weld y Gymraeg fel iaith dydd i ddydd ein cymunedau ac er mwyn sicrhau hynny mae angen i bawb - o'n cynghorau cymuned reit lan i'r Cynulliad - ddeffro i'r her. Mae angen gwaith yn ein cymunedau er mwyn adnabod yr heriau go iawn a gweld beth gallwn ni wneud amdanynt, yn ogystal â gwthio i drawsnewid ein polisïau economaidd a chynllunio i sicrhau dyfodol llewyrchus iddi yn ein cymunedau. Gobeithiwn y bydd y daith yn hybu trafodaeth ac ymwybyddiaeth o'r her."

Mae'r Gymdeithas yn annog grwpiau cymunedol a fyddai â diddordeb yn y daith a threfnu digwyddiadau i gysylltu â nhw ar post@cymdeithas.org . Ychwanegodd Ms Williams:

"Byddwn yn cynnig Cymorth Cyntaf i'n cymunedau ar yr 'ambiwlans'. Y camau cyntaf fydd i adnabod yr heriau penodol ym mhob ardal cyn gallu mynd ati i weithio gyda'n cymunedau i'w trawsnewid.

"Yng Ngwlad y Basg, mae nifer o gymunedau wedi ffurfio cynghrair i annog digwyddiadau yn y Fasgeg a hefyd i lobio dros yr iaith honno. Dyna'r fath o fenter rydyn ni'n gobeithio ei hybu ar ein taith, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o'r problemau sydd yn ein hwynebu."

Bydd y daith yn cael ei lansio'n swyddogol gan Dafydd Iwan ar ddydd Iau (Mehefin 7fed) ar faes Eisteddfod yr Urdd. Bydd yr ambiwlans wedyn yn teithio i Sioe Ogwen ar ddydd Sadwrn 9fed Mehefin, ac ymweld â nifer o lefydd yn y Gogledd gan gynnwys Llangefni, Cemlyn, Blaenau Ffestiniog, Llanrwst, Penmachno a Wrecsam. Bydd wedyn yn teithio i Geredigion a Sir Gaerfyrddin a'r De Ddwyrain ar y ffordd i faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fro Morgannwg.