Cymraeg ail iaith - Croesawu Sylwadau Carwyn Jones

Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu sylwadau Carwyn Jones gerbron pwyllgor y Cynulliad heddiw am fethiannau dysgu'r Gymraeg fel ail iaith.   

Dywedodd Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  
 
"Fe gafodd y Llywodraeth gyfle i daclo'r problemau drwy gam cyntaf yr adolygiad cwricwlwm ynghylch llythrennedd a rhifedd. Fodd bynnag, rydyn ni'n falch iawn nad yw'r Llywodraeth wedi diystyrru argymhellion yr Athro Sioned Davies, a bod awydd gan Carwyn Jones i weithredu ar frys. Fel mae ei hadroddiad yn dweud, mae hi'n unfed awr ar ddeg arnom ni.   
 
"Wedi'r cwbl, os ydyn ni am i'r Gymraeg ffynnu yn y blynyddoedd i ddod, mae'n rhaid i ni drawsnewid y sefyllfa bresennol fel bod y Gymraeg yn dod yn etifeddiaeth i bob un sy'n dewis gwneud Cymru yn gartref iddyn nhw, nid y rhai ffodus yn unig. Rydyn ni, a rhan helaeth o bobl Cymru, yn credu bod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru, a dylai'r gyfundrefn addysg  wireddu'r dyhead hwnnw."