Cymraeg yn hanfodol

Cymraeg yn HanfodolGofynion newydd Cymdeithas yr Iaith mewn cymunedau Cymraeg.Ddiwrnod wedi i aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd yn dilyn eu rhan yn yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd, bydd aelodau o'r mudiad, mewn tair ardal o Gymru,

Am 10.30am bore fory (Iau 24/11), bydd aelodau o’r Gymdeithas yn codi'r proclamasiwn ‘Cymraeg yn Hanfodol’ ar adeiladau cyhoeddus yn nhrefi Aberystwyth, Caerfyrddin a Bangor. Gwneir hyn er mwyn lansio cyfnod newydd o bwyso ar gyrff cyhoeddus yn ein cymunedau Cymraeg. Galwir arnynt i gymryd camau penodol er mwyn sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn dod yn rhan hanfodol o’u holl waith. Yn y pendraw, golyga hyn eu bod yn troi i fod yn gyrff sydd yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gyfieithu i'r Saesneg yr hyn sy'n angenrheidiol i sicrhau na chaiff trigolion di-Gymraeg eu hamddifadu o wasanaethau.Dwyieithrwydd CymraegMae'r Proclamasiwn yn galw'r nod hwn yn ‘Ddwyieithrwydd Cymraeg’. Golyga hyn wyrdroi 'r drefn bresennol o ddwyieithrwydd Saesneg, lle bo cyrff fel Cynghorau Sir, Asiantaethau Cyhoeddus a Cholegau Addysg yn cyflawni bron y cyfan o'u gwaith yn Saesneg gan ddibynnu ar gyfieithu er mwyn cyflwyno delwedd ddwyieithog i’r cyhoedd. O dan y drefn newydd o gyfieithu ar gyfer y di-Gymraeg, cofnodid cost cyfieithu fel gwariant ar y Saesneg.Pa Ardaloedd?Trwy lansio’r proclamasiwn ‘Cymraeg yn Hanfodol’ nid yw Cymdeithas yr Iaith yn ceisio dynodi un ‘Fro Gymraeg’ benodedig. Yn hytrach, amlinellir trefn ieithyddol newydd ar gyfer gweinyddiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Mae’r nod o ‘Ddwyieithrwydd Cymraeg’ yn un y gall pob corff anelu tuag ato.Serch hynny, o ganlyniad i wahaniaethau rhwng ardaloedd, mae’n anochel y bydd rhai cyrff yn symud yn gynt na’i gilydd. Ar hyn o bryd, disgwyliwn i’r cyrff cyhoeddus hynny sydd yn gwasanaethau llawer o'n cymunedau Cymreiciaf, i ddechrau gweithredu polisi o'r fath yn syth - er mwyn gwneud y Gymraeg yn hanfodol i fywyd cyhoeddus ynddynt. Gall fod amser maith iawn cyn bod cymunedau eraill yn barod i ddilyn yr un llwybr.LansioCaiff y cyfnod newydd hwn o bwyso ar gyrff cyhoeddus ei lansio yfory, trwy osod y proclamasiwn ar dri adeilad cyhoeddus mewn tri gwahanol rhan o Gymru:Caerfyrddin - ar bencadlys Cyngor Sir Caerfyrddin. Yn ôl eu polisi iaith, dywed y Cyngor eu bod yn ceisio ‘cynyddu cyfleon gwneud defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle’. Mewn geiriau eraill, Saesneg yw iaith y weinyddiaeth, ond caniateir y Gymraeg rhwng oedolion cydsynus. Byddwn yngalw ar gynghorau sir fel Caerfyrddin am bolisi sydd yn symud at weinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg.Bangor – wrth fynedfa Ysbyty Gwynedd ym Mhenrhosgarnedd. Mae llawer o asiantaethau cyhoeddus nad sy'n atebol i etholwyr wedi cymryd drosodd gwasanaethau. Disgwyliwn i'r rhain symud yn awr tuag at weithio trwy gyfrwng y Gymraeg gan gyfieithu ond yn ôl yr angen.Aberystwyth - ar swyddfa Coleg Ceredigion. Yn lle ceisio ‘cynyddu nifer y cyrsiau unigol Cymraeg’, disgwyliwn i Golegau Addysg yn ein cymunedau Cymraeg, i symud tuag at bolisi syml o wneud y Gymraeg yn hanfodol i bob cwrs. Hynny yw, ni bydd myfyriwr yn derbyn cymhwyster heb arddangos ei allu i gyflawni ei waith yn Gymraeg. Mae’r colegau hyn yn darparu gweithwyr ar gyfer llu o wasanaethau cyhoeddus, ac felly mae eu swyddogaeth yn un allweddol.Bydd y weithred symbolaidd o osod proclamasiwn yn digwydd am 10.30am yn y 3 lleoliad.Pwyswch yma i lawrlwytho copi o'r Proclamasiwn (pdf - 52kb)Pwyswch yma i lawrlwytho copi o'r ddogfen gefndir (pdf - 80kb)Stori oddi ar wefan y Carmarthen JournalStori oddi ar wefan y Western Mail