Cymry amlwg am i holl ddisgyblion Cymru faestroli’r Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhyddhau heddiw destun llythyr a anfonwyd gan 18 o addysgwyr a Chymry amlwg yn galw ar Carwyn Jones i weithredu ar frys i sicrhau fod holl ddisgyblion Cymru'n meistroli'r Gymraeg.

Ymhlith y rhai a lofnododd y llythyr hwn y mae'r addysgwyr a thiwtoriaid iaith amlwg Ioan Talfryn, Cefin Campbell, Simon Brooks a Nia Royles, cyn-Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Meirion Prys Davies, yr Archdderwydd Christine James a'r Brifardd Mererid Hopwood, yr Aelod Cynulliad Llyr Huws-Gruffydd, a Robin McBryde o dim hyfforddi rygbi Cymru.

Yn y llythyr, mynegant siom fod y llywodraeth wedi penderfynu gadael ystyriaeth o ddiwygio "Cymraeg Ail Iaith" am flwyddyn arall tan ail "Gam" yr Adolygiad Cwricwlwm.

Esbonia Ffred Ffransis, a lofnododd y llythyr ar ran Cymdeithas yr Iaith: "Mae'r adroddiad a gomisiynodd y llywodraeth ei hun yn cydnabod mai methiant yw dysgu Cymraeg fel ail iaith, a gallaf dystio i hyn fel rhywun wnaeth orfod dysgu'r iaith y ffordd galed. Mae'r llywodraeth yng nghanol Cam 1 eu Hadolygiad Cwricwlwm yn ymdrin â sgiliau cyfathrebu a llythrennedd, ond dyn nhw ddim yn ystyried y dylai holl ddisgyblion Cymru feithrin sgiliau cyfathrebu a llythrennedd yn y ddwy iaith. Dyma ddangos eto diffyg ymwybyddiaeth y llywodraeth a'r argyfwng sy'n wynebu'r Gymraeg yn ol canlyniadau'r Cyfrifiad."

Mae'r gofyniad hwn yn un o'r 6 newid polisi - "6 pheth" - y mae'r Gymdeithas wedi gofyn i’r Prif Weinidog Carwyn Jones ei wneud er mwyn ymateb i ganlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad.

Copi o’r llythyr at Carwyn Jones