Cymunedau Cymraeg o dan fygythiad - dewch i'n rali flynyddol

Na i or-ddatblygu: Cynllunio er budd ein cymunedau  

Siaradwyr: Leanne Wood AC, Iwan Edgar, Toni Schiavone  

Tafarn y Penlan Fawr, Stryd Penlan, Pwllheli, LL53 5DE  

Dydd Sadwrn, 4ydd Hydref  

10.30 yb - Cyfarfod Cyffredinol i aelodau'r Gymdeithas 

2 yp - Rali Flynyddol (agored i bawb) 

8 yh - gig yn y Penlan Fawr gyda Twmffat, Jamie Bevan a'r Chwedlau.  

http://cymdeithas.org/digwyddiadau/rali-flynyddol-2014-pwllheli

https://www.facebook.com/events/485253354951786

Annwyl Gyfaill,

Mae llawer o bobl yn pryderu am or-ddatblygu mewn nifer o ardaloedd ledled Cymru - o ddatblygiadau tai diangen i'r M4 newydd - ac effaith hynny ar yr amgylchedd, ar y Gymraeg, ac ar lefelau tlodi. 

Nid yw pawb yn sylweddoli bod cyfle gan Lywodraeth Cymru i baratoi deddfwriaeth a allai atal y datblygiadau anghynaladwy hyn - a chaniatau'r math iawn o ddatblygiadau lle mae eu gwir angen ar gymunedau. Yn anffodus, mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi Bil Cynllunio drafft, a fyddai, yn hytrach na thaclo'r problemau, yn eu dwysáu, gan olygu bod penderfyniadau cynllunio'n symud ymhellach o afael y bobl, ac yn digwydd mewn modd llai democrataidd. Doedd dim un gair am effaith y drefn gynllunio ar y Gymraeg yn y cannoedd o dudalennau o waith papur sy'n ymwneud â'r Bil drafft.  

Bydd sicrhau newidiadau i gynlluniau deddfu presennol y Llywodraeth yn un o brif flaenoriaethau Cymdeithas yr Iaith dros y misoedd nesaf. Cynllunio fydd thema ein rali flynyddol ym Mhwllheli ddydd Sadwrn, Hydref 4ydd, gydag Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, ymysg y siaradwyr. Hoffwn annog pawb sy'n poeni am yr iaith, a'r drefn gynllunio'n fwy cyffredinol, i ddod er mwyn codi llais yn erbyn cynlluniau presennol y Llywodraeth.

Chwilio am le i aros yn yr ardal? Mae llety wedi ei ddarparu yn Nghanolfan Pen y Graig, Llangwnnadl i chi ar y nos Wener a'r nos Sadwrn am £3 y noson yn unig, mewn ardal braf gyda un o draethau hyfrytaf Penllyn, Porth Colmon reit ar garreg y drws. Rhowch wybod i Osian Jones os ydych chi am aros yn y llety ar 01286 662908 neu gogledd@cymdeithas.org. 

Trafnidaeth: Bydd bysiau yn cludo pobl i'r rali o bob rhan o Gymru:  

  • De Ddwyrain / Powys - cysylltwch â Euros ap Hywel 02920 486469 / de@cymdeithas.org  

  • Dyfed - cysylltwch â Bethan Williams 01970 624501 / bethan@cymdeithas.org 

  • Gogledd Ddwyrain - cysylltwch ag Osian Jones ar 01286 662908 / gogledd@cymdeithas.org 

Ydych chi eisiau cryfhau'r Gymraeg o fewn y system gynllunio? 

Datganwch eich cefnogaeth yma, ond 30 eiliad mae'n ei gymryd: http://cymdeithas.org/galwadcynllunio 

Dros wir annibyniaeth,  
 

Robin Farrar  

Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg  

post@cymdeithas.org  / 01970 624501 

@cymdeithas  

facebook.com/cymdeithas