Daeth dros 300 o gefnogwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i rali yng Nghaerdydd dydd Sadwrn i alw ar lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith dros ddyfodol cymunedau Cymraeg. Cynhaliwyd y rali ar drothwy cyfarfod rhwng Cymdeithas yr Iaith ac Edwina Hart ar Dachwedd 26ain.
Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Roedd y rali yn benllanw blwyddyn o ymgyrchu dros ddyfodol ein cymunedau. Cynhaliwyd dwy lobi,y naill yn Llundain a'r llall yng Nghaerdydd. Trefnwyd cyfarfodydd gda llu o wleidyddion Cymreig a chafwyd taith o Langefni i Gaerdydd ym mis Awst oedd yn galw ar i lywodraeth Cymru weithredu dros ddyfodol ein cymunedau. Llwyddwyd i gael cefnogaeth dros 130 o Gynghorau Cymuned i'r Datganiad Dros Ddyfodol Cymunedau ynghyd a chefnogaeth nifer fawr o fudiadau a sefydliadau cenedlaethol fel Undeb Amaethwyr Cymru, Merched y Wawr ac UCAC.""Mae gwybod am y gefnogaeth hon yn rhoi hyder ychwanegol i ni wrth i ni baratoi am y cyfarfod gyda Edwina Hart ar Dachwedd 26ain. Yn y cyfarfod hwnnw byddwn yn galw am gynnydd sylweddol yn yr arian a ddarperir ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu ac hefyd ar gyfer y ddarpariaeth o dai ar rent."Stori BBC Cymru'r Byd