Mae cyn Aelod Seneddol blaenllaw y blaid Lafur wedi cefnogi galwadau arbenigwyr dros sicrhau addysg Gymraeg i bob plentyn cyn i Lywodraeth Cymru wneud datganiad ynghylch newidiadau i gwricwlwm ysgolion heddiw (Dydd Mawrth, 30ain Mehefin).
Daw'r newyddion wedi i nifer fawr o arbenigwyr addysg a mudiadau alw ar i'r Llywodraeth sicrhau bod y Llywodraeth yn gweithredu argymhellion yr Athro Sioned Davies i symud at addysg Gymraeg i bob plentyn. Ymysg cefnogwyr yr ymgyrch mae David Crystal, Athro mewn Ieitheg Prifysgol Bangor ac awdur Cambridge Encyclopedia of Language, yr undeb athrawon UCAC, a Gethin Lewis, cyn Brifathro a chyn ysgrifennydd Cenedlaethol N.U.T. Cymru.
Mae'r cyn-Aelod Seneddol Llafur dros Aberafan Hywel Francis wedi datgan ei gefnogaeth i alwad gan y grŵp pwyso Cymdeithas yr Iaith Gymraeg sydd: "yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddal ar y cyfle i ddatblygu cwricwlwm newydd a fydd yn sicrhau fod pob disgybl yn datblygu’r sgil addysgol hanfodol o fedru cyfathrebu a gweithio yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg. Mae cyfle cyflawni hyn trwy weithredu argymhellion adroddiad yr Athro Sioned Davies (“Un Iaith i Bawb”), a gomisiynwyd gan y llywodraeth ei hun, y dylid terfynu cysyniad dilornus “Cymraeg Ail Iaith” a sefydlu yn ei le gontinwwm dysgu “Cymraeg” i bawb. Byddai pob disgybl yn derbyn peth o’i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg fel y daw i fedru defnyddio’r Gymraeg yn ymarferol ... Ni ddylai unrhyw ddisgybl fod tan anfantais ddiwylliannol nac economaidd o’i amddifadu o’r gallu i gyfathrebu’n Gymraeg"
Daw'r newyddion wedi i'r Gweinidog Addysg Huw Lewis awgrymu ei fod yn mynd i gyflwyno newidiadau i'r ffordd mae disgyblion yn caffael y Gymraeg. Wrth siarad yn y Cynulliad ychydig wythnosau yn ôl, dywedodd: "mae’r adolygiad ... yn rhoi cyfle i ni feddwl mewn termau sylfaenol iawn, o ran ailwampio’n gyfan gwbl y modd o gaffael y Gymraeg, y modd y gellid cyflwyno caffael iaith i’n pobl ifanc ... nid oes amheuaeth fod rhywbeth yn gamweithredol yn y modd y cyflwynir Cymraeg fel ail iaith. Rwy’n credu bod y derminoleg hyd yn oed yn amheus ac yn hen ffasiwn erbyn hyn."
Wrth ymateb i gefnogaeth y cyn-AS i'r ymgyrch dros addysg Gymraeg i bawb, dywedodd Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Rydym yn croesawu'n wresog y gefnogaeth hon i'r ymgyrch gan ffigwr mor flaenllaw yn y mudiad llafur. Does dim amheuaeth: mewn ysgolion nad ydynt yn rhai Cymraeg, mae'r ffordd bresennol mae plant yn dysgu'r iaith yn methu. Mae geiriau'r Gweinidog yn awgrymu bod y neges yn dechrau cyrraedd y rhai sydd mewn grym. Os yw'r Gweinidog wir yn credu bod angen 'ail-wampio'n gyfan gwbl' y gyfundrefn bresennol, rhaid cael datganiad syml o fwriad i derfynu Cymraeg Ail Iaith a symud at drefn gyda pheth o addysg pawb yn gyfrwng Cymraeg. Dyna'r ffordd y daw ein holl blant i gael defnyddio'r iaith."