Cyngor Byddar Ceredigion

 crestceredigion.gif Yn dilyn cyfarfod o gabinet Cyngor Ceredigion a gynhaliwyd yr wythnos yma mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo arweinyddiaeth y Cyngor o fethuín llwyr ag ymateb i ddyheadau pobl y sir, gan baratoi Cynllun Datblygu Unedola fydd yn sicrhau dyfodol i gymunedau lleol aír iaith Gymraeg.

Meddai Angharad Clwyd, Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion o Gymdeithas yr Iaith:"Ymddengys fel petai arweinyddiaeth Cyngor Ceredigion yn benderfynol o barhau gydaír Cynllun Datblygu Unedol presennol cynllun a fydd yn tanseilio rhagolygon cymunedauír sir aír iaith Gymraeg. Maent am wneud hyn ar waethaf gwrthwynebiadau o sawl gwahanol cyfeiriad."Rhestrodd Angharad Clwyd rai o bryderon Cymdeithas yr Iaith:"Dro ar Ùl tro gwelir swyddogion Cyngor Ceredigion yn dadlau mewn ffordd simplistic nad ywír CDU yn ddim mwy na mater o reoli defnydd tir. Serch hynny, maeín rhaid iddynt dderbyn fod gan y drefn Gynllunio rol allweddol iíw chwarae wrth sicrhau dyfodol cynaladwy iír Gymraeg fel iaith gymunedol fyw.Ar ben hynny, maen rhaid iddynt sicrhau fod sefyllfaír Gymraeg yn cael ei ystyried yn llawn wrth drafod ceisiadau cynllunio. Nid yw dweud yn syml fod y Gymraeg yn bwysig yn ddigon da- maeín rhaid i hynny gael ei adlewyrchu mewn polisiau gweithredol.Yn ogystal dim ond wrth seilio polisiau taiír CDU ar ymchwil manwl oír angen lleol y gellir sicrhau polisiau teg. Nid ywír bwriad presennol o roi caniatad ar gyfer 6,500 o dai wedi ei seilio ar ymchwil ac felly ni fydd yn ateb anghenion pobl y sir.îWythnos nesaf bydd Cymdeithas yr Iaith yn codiír materion hyn gyda Carwyn Jones , Gweinidog Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad y Cynulliad. Ef sydd a chyfrifoldeb dros Gynlluniau Datblygu Unedol.