Cyngor Ceredigion yn cydnabod Saesneg fel iaith swyddogol

keith-evans-ceredigion.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb yn chwyrn i benderfyniad Bwrdd Gweithredol Cyngor Ceredigion i gyhoeddi pob adroddiad a dogfen ar eu gwefan yn Saesneg gyda nodyn y cant eu cyfieithu i'r Gymraeg fel y bydd adnoddau'n caniatau.

Dywedodd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yng Ngheredigion, Angharad Clwyd, "Dyma barhad yn y ganrif newydd o'r hen agwedd taeog fod yn rhaid i bopeth gael ei wneud yn Saesneg er mwyn bod yn swyddogol, ac mai cymwynas bach a Chymry Cymraeg yw cyfieithu.""Os yw'r Gymraeg i fyw, rhaid troi'r sefyllfa hon wyneb i waered. Rhaid i gyngor fel Ceredigion fabwysiadu'r Gymraeg fel ei hiaith swyddogol a chynnal ei weinyddiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gyfieithu i'r Saesneg yr hyn sy'n angenrheidiol i sicrhau chwarae teg i drigolion di-Gymraeg. Rhaid deall fod cyfieithu ar gyfer pobl ddi-Gymraeg, nid ar gyfer pobl sy'n gallu deall y ddwy iaith, ac felly gwariant ar yr iaith Saesneg yw cyfieithu."Mae hon yn egwyddor sylfaenol iawn, a byddwn yn cynnal cyfarfod brys o'n haelodau yng Ngheredigion i drefnu ymgyrch o bwysau gweithredol ar Gyngor Ceredigion i'w darbwyllo i newid eu polisi a gwneud y Gymraeg yn hanfodol i'w holl waith."