Mewn ymateb i gyhoeddiad Cyngor Gwynedd i gau Ysgol y Parc dywed Ffred Ffransis, Llefarydd Addysg Cymdeithas yr Iaith:"Mae'r atebion a argymhellir gan gynghorwyr presennol Gwynedd yn waeth na'r hyn oedd yn cael ei gynnig gan y cyn arweinyddiaeth yng Ngwynedd ac a wrthodwyd gan yr etholwyr yn yr etholiad diwethaf. Yr oedd y cyn arweinyddiaeth wedi rhoi sicrwydd am ddyfodol Ysgol y Parc. Nawr mae gyda ni arweinyddiaeth newydd sydd am danseilio cymuned fywiog Gymraeg. Mae hyd yn oed Cyngor Gwynedd am ddilyn y polisi negyddol yn hytrach na chreu polisiau llawn dychymyg i wneud yn fawr o'r asedau sydd gan y cymunedau. Mae hon yn frwydr derfynol dros ddyfodol ein cymunedau Cymraeg. Byddaf yn argymell i ranbarth Gwynedd o'r Gymdeithas bod cychwyn ymgyrch o ddwyn pwysau gweithredu uniongyrchol ar Gyngor Gwynedd."