Cyngor Sir Caerfyrddin i osod esiampl o ran y Gymraeg

Daeth cynghorwyr o wahanol bleidiau a swyddogion o adran y Prif Weithredwr i fforwm cyhoeddus gan Gymdeithas yr Iaith yng Nghaerfyrddin heddiw, er mwyn trefnu defnydd y cyngor ei hun o'r Gymraeg

Esboniodd Amy Jones, cadeirydd rhanbarth Sir Gâr: "Gan mai nod Strategaeth Hybu'r Gymraeg yn Sir Gâr ( sydd o dan arweiniad y Cyngor) yw gwneud y Gymraeg yn brif iaith y sir, mae'n bwysig fod y Gymraeg yn dod yn brif iaith y cyngor ei hun. Ymfalchïwn fod yma Gyngor Sir sydd nid yn unig am osod esiampl o ran defnydd y Gymraeg ond hefyd o ran bod yn agored i dderbyn cwestiynau gan y cyhoedd ac yn croesawu pawb i gyfrannu at y trafod"

Ymhlith cyfranwyr y fforwm roedd Cyng Peter Hughes-Griffiths (aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am y Gymraeg), Cyng Cefin Campbell (Plaid Cymru) a'r Cyng Tina Higgins (Llafur); Paul Thomas, Dirprwy Brif Weithredwr y Cyngor a'r Prifardd Mererid Hopwood.
 
Wrth gloi'r cyfarfod dywedodd Amy Jones:
"Mae'n bryd nawr i'r cyngor nodi dyddiad pan fydd y Gymraeg yn brif iaith y cyngor. Dydyn ni'n disgwyl i hynny fod yn rhywbeth sy'n digwydd dros nos wrth reswm, ond bod gosod dyddiad sy'n gyraeddadwy yn y dyfodol agos."
 
Mae rhagor o luniau'r digwyddiad i'w gweld yma