Cyngor Sir Gâr yn cyhoeddi Maes y Gâd!

Cadwn Ein Hysgolion.JPG Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Cyngor Sir Caerfyrddin o “gymhellion gwleidyddol sinicaidd” wrth gyhoeddi amserlen i drafod y bosibiliad o gau degau o ysgolion pentrefol Cymraeg y sir. Y diwrnod ar ôl protest dros ysgolion pentre (Dydd Llun) ar faes Eisteddfod yr Urdd, bydd Bwrdd Gweithredol y Cyngor (10am Mawrth 31/5) yn trafod amserlen “ymgynghori” am ddyfodol ysgolion yn y sir, ac y mae’r amserlen yn awr yn hysbys ar eu gwefan.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn cyhuddo’r Cyngor o:• Geisio claddu’r newyddion am amserlen trafod dyfodol ysgolion trwy ganolbwyntio yn eu datganiad i’r wasg ar amserlen gyfochrog (a drafodir yr un dydd) o fuddsoddi yn adeiladau ysgolion eraill.• Geisio ymosod ar y targedau gwanaf i ddechrau am resymau gwleidyddol.• Geisio cyfuno’n sinicaidd amserlen gau ysgolion gydag amserlen buddsoddi mewn eraill gan awgrymu na bydd rhai ysgolion yn derbyn gwelliannau angenrheidiol onibai fod ysgolion eraill yn cael eu haberthu.• Wneud yr holl broses ymgynghori’n annilys trwy wrthod cynnig unrhyw opsiwn ond cau ysgolion an chreu ysgolion ardal canolog a thrwy gyfri mlaen llaw am dderbyniadau cyfalaf o werthu ysgolion – hyd yn oed cyn dechrau ymgynghori am eu dyfodol!• Fynd yn ôl ar addewid i roi gwybod i staff yr ysgolion yn gyntaf.Dywed llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis:"Gan fod y Cyngor eisoes yn adeiladu i mewn i’w gyfrifon o 2008 ymlaen symiau penodol sylweddol o dderbyniadau cyfalaf am werthu ysgolion, meant yn trin yr ymgynghori honedig gyda dirmyg llwyr.""Cymhellion gwleidyddol sydd wrth wraidd eu dewis o ba ysgolion i ymosod arnynt yn gyntaf gan eu bod yn amlwg yn credu iddynt ddewis y rhai hawsaf ar gyfer y flwyddyn nesaf. Yn ystod 2005/6, bydd ymgynghori am:• Nifer o ddatblygiadau nad sydd yn ddadleuol iawn yn ardaloedd Rhydaman a Llanelli.• Ail-gydio yn eu hen ymgyrch yn erbyn Ysgol Cefnbrynbrain.• Gau’n syth ysgolion yn y ddwy gymuned – Trap a Chwmgwili – sydd wedi digalonni’n llwyr o ganlyniad i elyniaeth a diffyg buddsoddiad y Cyngor, ac y mae niferoedd plant wedi disgyn yn sydyn o ganlyniad.Brwydr LlansadwrnEfallai y daw y frwydr fawr gyntaf dros ddyfodol Ysgol Llansadwrn sydd hefyd ar y rhestr 'ymgynghori' am 2005/6. Yn y gymuned Gymraeg fach hon, y mae rhieni a llywodraethwyr yn sefyll yn gadarn yn erbyn awydd y Cyngor i gau’r ysgol a throsglwyddo’r disgyblion i Ysgol Llanwrda. Yn sinicaidd, mae’r Cyngor wedi cyhoeddi buddsoddiad sylweddol yn Ysgol Llanwrda ar gyfer y flwyddynganlynol, gyda’r awgrym amlwg na chaiff rhieni Llanwrda’r buddsoddiad os na chaiff Llansadwrn ei aberthu. Dysgwyd y wers hon o rannu-a-rheoli gan Gyngor Sir Benfro.Mewn Undeb mae NerthMae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar ymgyrchwyr lleol trwy’r sir i anrhydeddu eu haddewid i sefyll gyda phwy bynnag o’u plith oedd y cyntaf i gael ei fygwth gan y Cyngor. Galwn am ymgyrch unol trwy’r sir i amddiffyn Ysgol Llansadwrn ac unrhyw ysgol arall fel Cefnbrynbrain sydd am frwydro dros ei dyfodol. Os nad yw’r ysgolion cyntaf hyn yn ennill eu brwydrau, yr ydym oll yn gwybod bellach pa ysgolion a chymunedau a fydd yn cael eu taro gan y Cyngor Sir yn nesaf.Brwydrau Mawr ym 2006/7Rhybuddiodd Mr Ffransis y Cyngor Sir y byddai brwydrau enfawr ar eu dwylo yn yr ail flwyddyn o 'ymgynghori'. Dywedodd:"Yr wyf yn sicr y bydd gwrthwynebiad ffyrnig gan gymunedau Cilycwm a Chynghordy yn Nyffryn Tywi uchaf, ac yn ne’r sir, ac yn ardal Pontyberem lle mae ysgol sydd â 55 o blant (Bancffosfelen) tan ymosodiad."Cyfarfod gyda Jane DavidsonMae Cymdeithas yr Iaith wedi gwahodd pawb sy’n pryderu am ddyfodol ein hysgolion pentrefol Cymraeg i gyfarfod gyda’r Gweinidog Addysg am 3.30pm Ddydd Llun nesaf (30/5) yn uned Llywodraeth y Cynulliad ar Faes Eisteddfod yr Urdd. Ein gobaith yw y daw hi i wrando ar ofid, rhwystredigaeth a syniadau creadigol ymgyrchwyr dros ysgolion pentrefol.”Gwybodaeth Ychwanegol• Caiff y cynnig i 'ymgynghori' am Llansadwrn ei gyfeirio am sylwadau at y Pwyllgor Craffu Addysg dridiau’n ddiweddarach (10am Gwener 3/6 – Swyddfa’r Cyngor, Heol Spilman). Yn y fan honno y disgwylir y ddadl gyntaf gan fod y Bwrdd Gweithredol yn derbyn yn ddof argymhellion.• Amserlen 'ymgynghori' ar wefan y Cyngor Sir – papurau at y Bwrdd Gweithredol 31/05/05.• Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyfarfod â’r Cyfarwyddwr Addysg newydd, Vernon Morgan, i drafod y mater am 4pm Llun 13eg Mehefin.Stori oddi ar wefan y Western Mail