Cyngor Sir Gâr yn damsgyn ar gymunedau

Cadwn Ein Hysgolion.JPG Yn dilyn cyfarfod o Gyngor Sir Caerfyrddin y bore yma pryd y derbyniwyd penderfyniad Bwrdd Gweithredol y Cyngor i fabwysiadu Strategaeth o gau dros 30 o ysgolion pentrefol Cymraeg, cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith y bydd yn ymgyrchu’n ddygn dros gael gwared â’r Strategaeth ac yn sicrhau y bydd llais y cymunedau sydd dan fygythiad yn cael ei glywed.

Yn dilyn y rali fawr - o dros 300 o bobl - a drefnwyd i gyd-fynd a chyfarfod y Cyngor, dywedodd Sioned Elin (Cadeirydd y Gymdeithas yn Rhanbarth Caerfyrddin):“Mae heddiw yn ddiwrnod trist iawn, nid yn unig i’r holl gymunedau sydd dan gwmwl, ond hefyd i ddemocratiaeth yn Sir Gâr. Mae’n warthus bod arweinwyr a swyddogion y Cyngor Sir wedi gwrthod caniatâu i’r Cynghorwyr drafod y strategaeth hon sydd ag effeithiau mor ddinistriol a phellgyrhaeddol. Daeth cannoedd o bobl o gymunedau ar hyd a lled y Sir yma i Neuadd y Sir heddiw ac roedd miloedd wedi arwyddo deiseb i leisio eu gwrthwynebiad i’r Strategaeth hon ac i alw ar y Cyngor i ymgynghori o ddifrif ynglŷn ag egwyddorion y Strategaeth.”Mae heddiw yn ddechrau ymgyrch fawr dros ddyfodol ein hysgolion a’n cymunedau Cymraeg. Y cam nesaf fydd cynnull Fforwm Agored fydd yn rhoi cyfle i bobl o wahanol gymunedau ledled y Sir ddod at ei gilydd i godi llais a threfnu ymgyrch gref. Cynhelir y fforwm yng Ngharmel ar 13 Ionawr 2005.Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori oddi ar wefan BBC WalesStori oddi ar wefan y Western Mail