CYNGOR SIR WEDI "ACHOSI POEN MEDDWL DI-ANGEN I GYMUNED LEOL"

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan fod Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir
Caerfyrddin wedi "achosi poen meddwl di-angen" i lywodraethwyr, rhieni
a'r gymuned leol ym Mynydd-y-Garreg trwy awdurdodi Ymgynghoriad Statudol
ar gynnig i gau ysgol y pentref, fel rhan o gynllun ehangach i geisio
cyllid am adeilad newydd i Ysgol Gymraeg Gwenllian yng Nghydweli. Mae'r
Gymdeithas yn dadlau y buasai wedi bod yn gynt i wneud cais yn syth am
adeilad newydd i Ysgol Gwenllian, heb gyplysu hyn ag ymdrech i gau ysgol
lwyddiannus ym Mynydd-y-Garreg.

Ar ran Rhanbarth Caerfyrddin o Gymdeithas yr Iaith, dywed Ffred Ffransis
"Mae'r Gweinidog Addysg wedi datgan yn y Senedd nad oes raid cau ysgol
er mwyn denu cyllid i ddatblygu ysgol arall, ac mae'r Cyngor yn
gwastraffu llawer o amser o ran cael yr arian ar gyfer Ysgol Gwenllian
trwy gysylltu'r cais gyda chynnig di-sail i gau Ysgol Mynydd-y-Garreg.
Gallsai Bwrdd Gweithredol y Cyngor fod wedi gwneud cais yn syth am
adeilad newydd i Ysgol Gwenllian, a gofyn i swyddogion gymryd amser
priodol i drafod posibiliadau - heb fygythiad o gau - yn anffurfiol

gydag Ysgol Mynydd-y-Garreg fel y mae'r Côd Trefniadaeth Ysgolion yn ei
nodi fel arfer da.

Ychwanegodd "Mae'r ddogfen sy'n casglu mai syniad da fyddai cau Ysgol
Mynydd-y-Garreg yn anhygoel o wan, ac yn dibynnu ar ddadleuon generig y
gellid eu defnyddio i gau ysgolion ledled y wlad sydd â llai na 90
disgybl. Tair brawddeg gwta sydd yn yr Asesiad Effaith ar y Gymraeg gan
ddiystyru'n llwyr posibiliad real y gallai rhieni anfon eu plant at yr
ysgol Saesneg yng Nghydweli petai ysgol y pentre'n cau. Yr ydym yn
siomedig iawn felly fod y Cyngor am gael ymgynghoriad ar y sail hon. Ond
mae llawer o gynghorwyr cydwybodol ar y Bwrdd Gweithredol, a gwnawn ni
eu cymryd ar eu gair nad ydynt wedi dod i unrhyw gasgliad. Anogwn
felly'r gymuned leol ac eraill i anfon mynydd o dystiolaeth mewn ymateb
i'r ymgynghoriad"