Mae Steffan Cravos, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi derbyn llythyr oddi wrth Gyngor Dinas a Sir Caerdydd yn gofyn i'r mudiad roi'r gorau i ymgyrchu yn y ddinas.
Daw'r llythyr oddi wrth y Cynghorydd Elgan Morgan ac mae'n cyhuddo'r Gymdeithas o 'ddifwyno'� arwyddion ffyrdd ac arwyddion eraill yn y ddinas gyda'r sticeri 'Ble Mae'r Gymraeg?' Mae'r llythyr yn mynd ymlaen i ddweud fod:
y fandaliaeth yma yn costio miloedd o bunnau i'r Cyngor i'w gywiro bob blwyddyn ... felly rwy'n gofyn i chi roi'r gorau i gynhyrchu'r sticeri yma ac i ysgrifennu at eich aelodau gan ofyn iddynt hwy roi'r gorau i fandaleiddio eiddo cyhoeddus a dwyn eu sylw at y gost o drwsio'r arwyddion ac mewn mannau tebyg i Gaerdydd a phoblogaeth ddi-Gymraeg helaeth ei bod yn ddigon anodd perswadio pobl o'r angen am ddwyieithrwydd yn y lle cyntaf.
Wrth ymateb dywedodd Steffan Cravos ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg"Enillwyd y frwydr dros arwyddion dwyieithog yn y 60au gan Gymdeithas yr Iaith ond mae Cyngor Caerdydd yn parhau i godi arwyddion ffyrdd uniaiaeth Saesneg ar draws y Brifddinas ac yn torri'r gyfraith yn sgil hyn.""Mae'r Gymdeithas yn gwbl ddiedifar ynglŷn â'r sticeri hyn. Cyfrifoldeb Cyngor sy'n gwasanaethu prifddinas Cymru yw cadw at y canllawiau yn eu Cynllun Iaith sydd yn dweud (fel y cydnebir gan Elgan Morgan ei hun yn y llythyr).. 'Bydd pob arwydd gwybodaeth gyhoeddus newydd yn ogystal â'r rhai a ailosodir y mae'r Cyngor yn gyfrifol amdanynt, gan gynnwys arwyddion priffyrdd yn ddwyieithog.'""Dylid nodi hefyd fod y Gymdeithas wedi derbyn cefnogaeth i'w hymgyrch gan nifer o Gymry di-Gymraeg yn y ddinas.""Yr ydym yn barod i drafod y mater hwn ymhellach gyda'r Cyngor. Ond mewn gwirionedd yr unig beth y mae angen iddynt ei wneud yw cadw at eu gair a chodi arwyddion dwyieithog."