Cynllun i sefydlu addysg Gymraeg i bawb

Mae Cymdeithas yr Iaith yn cyhoeddi heddiw restr o bobl amlwg sydd wedi llofnodi llythyr agored at y Prif Weinidog Carwyn Jones yn cefnogi galwad am chwyldroi addysg Gymraeg. Mae’r rhestr yn cynwys yr Archdderwydd, Aelodau Cynulliad a Seneddol  a chynghorwyr lleol, yn ogystal ag addysgwyr a rhai sy’n gweithio gyda phobl ifainc ym maes chwaraeon.

Mae’r llythyr yn galw am roi terfyn ar yr holl gysyniad o “Gymraeg ail iaith” ac am gydnabyddiaeth yn hytrach fod y gallu I gyfathrebu a gweithio’n Gymraeg yn sgil addysgol hanfodol na ddylid amddifadu unrhyw ddisgybl ohono. Mae’r llythyr felly’n galw am symud tuag at drefn lle bydd pob disgybl yn derbyn o leiaf ran o’i addysg yn Gymraeg.

Esboniodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg Ffred Ffransis

“Nid ‘ail’ iaith yw’r Gymraeg gan ei bod yn perthyn i bawb yng Nghymru, ac arwydd o fethiant addysgol yw i unrhyw ddisgybl ymadael a’r ysgol heb fedru byw a gweithio’n Gymraeg mewn gwlad fodern ddwyieithog."

“Rhaid i ni symud at drefn lle bydd pob disgybl yn derbyn o leiaf ran o’i addysg yn Gymraegfel y dysgant sut i ddefnyddio’r iaith. Does dim modd cyflawni’r fath newid dros nos ac y mae’r rhai sydd wedi arwyddo’r llythyr (oll fel unigolion preifat) yn galw ar Carwyn Jones i dderbyn yr egwyddor a dechrau trafodaethau am sut i’w gweithredu.”

“Sefydlwyd pwyllgor i gynghori’r cyn-Weinidog (yn yr hydref) ynghylch dulliau gwella dysgu Cymraeg ail iaith ond mae’r byd wedi symud ymlaen ers hynny, a dylai Carwyn Jones (sydd nawr yn gyfrifol am yr iaith) ofyn i’r Pwyllgor i adnabod dulliau o symud tuag at sicrhau fod pob disgybl yn derbyn peth o’i addysg yn Gymraeg.”

Isod mae copi o'r llythyr

Annwyl Mr Jones

Galwn ar y Llywodraeth i dderbyn yr egwyddor fod y gallu i gyfathrebu a gweithio'n Gymraeg yn sgil addysgol hanfodol na ddylid amddifadu unrhyw ddisgybl ohono. Galwn am ymrwymiad i roi heibio'r cysyniad o "ddysgu'r Gymraeg yn ail iaith" gan ei bod yn perthyn i bob disgybl, a dylid cyflwyno system newydd o ddysgu'r Gymraeg i bawb fel y daw pob disgybl yn rhugl yn yr iaith ac yn derbyn peth o'i addysg yn Gymraeg. Galwn ar y llywodraeth, wedi derbyn yr egwyddor, i gynnal trafodaethau brys gyda'r byd addysg er mwyn llunio rhaglen i weithredu hyn, gan ddechrau gyda'r Blynyddoedd Cynnar.

ARWYDDWYD

  • Christine James (Archdderwydd Cymru)
  • Ann Jones AC (Aelod Cynulliad lleol)
  • Llyr Huws Gruffydd AC (AC Rhanbarthol)
  • Susan Elan Jones AS
  • Jonathan Edwards AS
  • Adam Price (Cyn Aelod Seneddol)
  • Cyng Arwel Roberts (Sir Ddinbych)
  • Cyng Arfon Jones (Bwrdeisdre Wrecsam)
  • Cyng Cefin Campbell (ymgynghorydd addysg)
  • Ioan Talfryn (PopethCymraeg.com, o’r Ganolfan Iaith leol, tiwtor rhaglen deledu “cariad@iaith")
  • Gayle Lister (enillydd gwobr “cariad@iaith”)
  • Toni Sciavone (cyn-bennaeth Uned Sgiliau Sylfaenol y Llywodraeth)
  • Athro Gareth Roberts (Ysgol Addysg, Prifysgol Bangor)
  • Nia Royles (cyn-Drefnydd Iaith Clwyd, cyn-Bennaeth Adran Gymraeg Ysgol Uwchradd Prestatyn)
  • Richard Snelson (cyn-Bennaeth Adran y Gymraeg Ysgol Uwchradd Y Rhyl)
  • Meirion Prys Jones (Prif Weithredwr NPLD a chyn Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith)
  • Heini Gruffudd (awdur ac arbenigydd ar ddysgu Cymraeg)
  • Simon Brooks (awdur ac academydd)
  • Mererid Hopwood (prifardd ac addysgydd)
  • Mike Jones (Rheolwr-Gyfarwyddwr CPD Y Rhyl, y clwb uwch-gynghrair lleol)
  • Robin McBryde (hyfforddwr blaenwyr Undeb Rygbi Cymru)
  • Felicity Roberts (Tiwtor Cymraeg I Oedolion)
  • Huw Gwyn (Tiwtor lleol Cymraeg I Oedolion)
  • Jamie Bevan (Trefnydd Cymraeg mewn Addysg Uwch)
  • Gruff Roberts Diserth (Awdur)
  • Ac ar ran Cymdeithas yr Iaith – Ffred Ffransis (llefarydd addysg) a Colin Nosworthy (swyddog Cyfathrebu), y ddau wedi gorfod dilyn cyrsiau “ail iaith”.