Mewn llythyr mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud nad yw cynllun y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd yn Gymraeg yn ddim mwy na geiriau.
Cyhoeddwyd Cynllun Pum Mlynedd "Mwy na Geiriau 2022-2027" ar yr ail o Awst 2022, ond hyd yma does dim tystiolaeth o'i weithredu yn ôl y llythyr gan y mudiad iaith, sy'n dweud:
"Wrth drafod eich gweledigaeth am ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal drwy gyfrwng y Gymraeg, roeddech yn cydnabod bryd hynny bod angen 'cynnig mwy, a hynny'n gyflymach'. Mae'n ymddangos bellach mai geiriau gwag oedd y rhain wrth i chi fethu gwireddu eich nod i sefydlu bwrdd cynghori newydd yn ystod 2022 i arwain y cynllun, gan achosi oedi difrifol i'r rhaglen waith."
Creu bwrdd cynghori oedd un o gamau cyntaf y cynllun, ac mae Cymdeithas yr Iaith yn holi pryd fydd y bwrdd yn cael ei benodi, a beth fydd effaith yr oedi ar weddill yr amserlen ar gleifion.
Yn ôl y llythyr:
"Mae'r fath oedi'n achosi pryder cynyddol i ni fel Cymdeithas ac anobaith llwyr i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth ar draws Cymru sydd wir angen cael mynediad uniongyrchol at driniaeth a gofal o'r ansawdd gorau sy'n diwallu eu hanghenion iaith."