Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i lansiad ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar reoliadau addysg Gymraeg heddiw gan ddweud bod ‘gwir angen Deddf Addysg Gymraeg’.
Yn yr adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i adolygu’r system o gynllunio addysg Gymraeg, dywed panel o arbenigwyr:
"Mae’r Bwrdd o’r farn fod angen ystyried cyflwyno deddfwriaeth newydd a fyddai’n diwygio ac yn disodli Deddf Rheoliadau a Threfniadaeth Ysgolion 2013 ... Mae’n gwbl briodol i’r Llywodraeth gytuno rhai newidiadau i’r Is-ddeddfwriaeth bresennol wrth wynebu’r her a osodir gan y ddogfen bolisi Cymraeg 2050 ond barn y Bwrdd yw bod angen ystyried yn ofalus sut mae cryfhau’n sylweddol y broses o gynllunio ieithyddol ac addysgol a fydd yn sicrhau fod canran llawer uwch o ddisgyblion yn cael y cyfle i allu siarad Cymraeg dros y degawdau nesaf hyn.
“… er mwyn sicrhau gwell darpariaeth o ran cynllunio a darparu ar gyfer addysg Gymraeg a dysgu’r Gymraeg yn fwy effeithiol yn gyffredinol, bydd angen creu deddfwriaeth fwy pwrpasol ac effeithiol er mwyn delio â’r holl ddatblygiadau hyn gan greu trefn a fydd yn fwy cynhwysol ac uchelgeisiol na’r un bresennol."
Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Mabli Siriol, Cadeirydd Grwp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
“Pam mae’r Llywodraeth yn anwybyddu casgliad clir eu harbenigwyr nhw eu hunain? Yn eu hadroddiad, mae’r panel wedi mynd allan o’u ffordd i wneud yn glir na fydd twtio gyda rheoliadau yn ddigonol i sicrhau cyrraedd y miliwn o siaradwyr, a bod Deddf Addysg Gymraeg yn hanfodol. Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi methu’n llwyr i wneud cynnydd o werth o ran addysg Gymraeg. A dydy’r rheoliadau yma ddim yn mynd i fod yn ddigonol, hyd yn oed ym marn yr arbenigwyr mae’r Llywodraeth ei hun wedi’u penodi, i sicrhau bod y Llywodraeth yn cyrraedd ei thargedau.
"Mae cyrraedd y miliwn erbyn 2050 yn hollol realistig a chyraeddadwy, ond er mwyn cyrraedd y nod, mae'n hanfodol bod y system addysg yn cyflawni twf cyson a sylweddol yng nghanran y rhai sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg. Yn hynny o beth, mae gwir angen Deddf Addysg Gymraeg yn ogystal â newidiadau pellgyrhaeddol er mwyn recriwtio, hyfforddi a chadw athrawon sy'n dysgu drwy'r iaith."
Mae cynllun y Gymdeithas ar gyfer Deddf Addysg Gymraeg yn cynnwys cynnig i ddisodli cynlluniau addysg Gymraeg presennol y cynghorau sir gyda thargedau lleol di-droi'n-ôl, gyda’r nod, dros amser, mai'r Gymraeg fyddai'r norm fel cyfrwng addysgu ar bob lefel o addysg.