Cynnal Gwersyll tu fewn i swyddfa'r BBC yng Nghaerfyrddin dros S4C

meddiannu-bbc-caerfyrddin.jpgMae nifer o bobl ifanc Sir Gaerfyrddin wedi meddiannu adeilad y BBC yng Nghaerfyrddin heddiw (Dydd Mercher, 23/2/11) fel rhan o'r ymgyrch i atal cytundeb rhwng y BBC a S4C, gan ddweud y byddai'n dinsitrio annibyniaeth y sianel.Dros y penwythnos, fe ddaeth tua 300 o bobl leol i brotest tu fas i swyddfeydd y BBC yng Nghaerfyrddin i ddangos eu gwrthwynebiad i'r cynlluniau.Fe ddywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Bethan Williams:"Mae'n amlwg fod brad y Llywodraeth a'r BBC yn cythruddo pobl Cymru, mae'r toriadau i S4C yn annheg ac yn bygwth dyfodol ein hunig sianel deledu Gymraeg ond nid yw pobl yn fodlon derbyn y cynlluniau hyn ar gyfer S4C. Mae'n bwysig ein bod ni'n gweithredu ac yn dangos ein bod yn unfrydol."Mae holl bleidiau'r Cynulliad wedi gofyn i Jeremy Hunt atal y cynlluniau ar gyfer S4C a chynnal adolygiad llawn o S4C cyn gwneud penderfyniad. Mae Llywodraeth Prydain yn anwybyddu galwadau pobl Cymru drwy wrthod hyn, maent wedi diystyrru barn pobl Cymru o'r dechrau wrth ddelio ag S4C."Mae'r BBC nawr yn mynnu mai penderfyniad y Llywodraeth oedd rhoi y sianel yn nwylo'r BBC. Ond, o flaen ASau fe ddywedodd Mark Thompson, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC bod y corfforaeth wedi cytuno i'r cynlluniau: "The agreement that was reached was one which was freely agreed to by the BBC ... the agreement was just that. It is an agreement rather than an imposition."

bbc-s4c.jpgYchwanegodd Menna Machreth:"Fydd twyll y BBC ddim yn argyhoeddi pobl Cymru. Wythnosau yn ol, roedden nhw'n trio dadlau bod nhw wedi achub S4C, wedyn bod y Llywodraeth wedi gorfodi iddynt gymryd S4C drosodd. Y gwir ydy eu bod nhw wedi arberthu'r Gymraeg a'n hunig sianel teledu Cymraeg er mwyn plesio eu bosys newydd yn y Llywodraeth yn Llundain. ""Dyw'r sianel ddim yn ddiogel yn eu dwylo nhw, yn ddiweddar fe wnaethant benderfynu tynnu allan o Eisteddfod yr Urdd, gwario llai ar deledu Cymraeg a chael gwared o wefan Gymraeg. Yn amlwg, mae'r iaith yn rhywbeth ymylol iddynt."O dan gydgynllun arfaethedig y BBC a'r llywodraeth yn Llundain, bydd annibyniaeth y sianel yn mynd yn llwyr - adran o'r BBC fydd hi, gyda 40% yn llai o arian, ac mae posibilrwydd y bydd gan weinidogion yn Llundain grym i ddiddymu'r sianel yn llwyr."Mewn ebost i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae'r AS lleol tref Caerfyrddin y Ceidwadwr Simon Hart wedi dweud nad yw ei etholwyr wedi datgan llawer o bryder am y sianel genedlaethol, dywedodd "In my constituency most of my mail bag is about health, education, police, housing and the wider economy." Fe dderbyniodd e dros 100 o lythyrau dros y penwythnos yn gwrthwynebu'r cynlluniau.Group occupy Carmarthen BBC newsroom over S4C funding changes - South Wales Evening Post - 24/02/2011S4C protesters in BBC sit-in - WalesOnline - 23/02/2011Protest arall yn swyddfeydd y BBC - Golwg360, 23/02/2011Protestwyr yn meddiannu stiwdio - BBC Cymru - 23/02/2011S4C protesters occupy BBC newsroom in Carmarthen - BBC Wales, 23/02/2011Welsh language protests over S4C to be stepped up - Daily Post, 23/02/2011Welsh Language Society pledges direct action over S4C - BBC Wales - 22/02/2011