Cynnal rali ar chwe deg mlwyddiant darlith ‘Tynged yr Iaith’

Bydd Cymdeithas yr Iaith cynnal rali Nid yw Cymru ar Werth 60 mlynedd ers traddodi darlith ‘Tynged yr Iaith’ gan Saunders Lewis, a sbardunodd sefydlu’r mudiad.

Ar y 19eg o Chwefror bydd un o gyn-gadeiryddion Cymdeithas yr Iaith sydd yn byw yng Nhalgarreg, Heledd Gwyndaf, yn dechrau’r rali ar bont Trefechan, lle cynhaliwyd protest gyntaf y mudiad ym 1963. Yna bydd ymgyrchwyr yn gorymdeithio at swyddfeydd Llywodraeth Cymru lle bydd Mabli Siriol, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith; Bryn Fôn; Mared Edwards, Llywydd UMCA, a Gwenno Morris, sydd yn chwilio am dŷ yn ardal Llandysul, yn eu hannerch.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesau’r mesurau i fynd i’r afael â thai haf yn y cytundeb rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru,  ond yn pwysleisio bod y broblem yn ehangach na thai haf a bod angen Deddf Eiddo fydd yn sicrhau cartref i bawb. Ymysg y mesurau yn y cytundeb rhwng y ddwy blaid mae cynllun peilot fydd yn profi mesurau i leihau nifer yr ail dai yn Nwyfor ac ymgynghoriad ar gyflwyno cais cynllunio I newid dosbarth defnydd tai o gartref i dŷ gwyliau.

Dywedodd un o drefnwyr y rali, Osian Jones:
“Mae wedi dod yn amlwg yn ddiweddar fod pwysau pobl Cymru am gyfiawnder yn y farchnad dai ac am gamau i sicrhau'r hawl i fyw yn lleol wedi cael effaith sylweddol ar y llywodraeth. Maen nhw wedi cyhoeddi camau i gyflwyno rheolau cynllunio newydd a threthi newydd posibl i atal colli gormod o'n stoc tai i’r farchnad ail gartrefi ac AirBnB.

“Ar ddechrau blwyddyn o ddathlu chwe deg mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith mae’n gyfle i ni atgoffa’n hunain bod ymgyrchu talu ffordd heddiw gymaint ag erioed felly mae angen dal i bwyso. Daliwn i bwyso i sicrhau na fydd y llywodraeth yn cyfaddawdu, ond yn blaenoriaethu cymunedau nid cyfalafiaeth. A daliwn i bwyso dros ymrwymiad i basio Deddf Eiddo gyflawn i sicrhau cyfiawnder o'r diwedd a pharhad i'n cymunedau trwy fod ystyried tai yn asedau cymdeithasol i ddarparu cartrefi, nid fel asedau masnachol i wneud elw.

Heddiw mae 60 diwrnod cyn y rali 60mlwyddiant hon. Byddwn yn cyfri lawr y dyddiau at y rali ac yn cyhoeddi rhagor o fanylion bob dydd ar dudalen facebook y digwyddiad."