Cynulliad yn 'torri'r Ddeddf Iaith'

senedd-cynulliad.jpg

Mae'r Cynulliad yn gweithredu'n anghyfreithlon wrth beidio â darparu cofnod o'i drafodion yn y Gymraeg, yn ôl Bwrdd yr Iaith Gymraeg.Dywed yr adroddiad (PDF): "mae'r Bwrdd o'r farn fod y Comisiwn wedi methu cydymffurfio gyda'r Cynllun Iaith drwy beidio darparu Cofnod cwbl ddwyieithog o drafodion cyfarfod llawn y Cynulliad." (tud. 15)Yn ôl yr adroddiad, ceisiodd corff rheoli'r Cynulliad rhwystro Bwrdd yr Iaith Gymraeg rhag cynnal ymchwiliad i mewn i'r sefyllfa "Mae Comisiwn y Cynulliad wedi herio hawl statudol y Bwrdd i gynnal yr ymchwiliad...."

Lansiodd Cymdeithas yr Iaith ddeiseb ar-lein ddydd Mercher, ac eisoes mae dros bum cant o bobl wedi ei lofnodi mewn llai na dau ddiwrnod. Meddai Catrin Dafydd o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'n anghredadwy bod ein deddfwrfa ni yng Nghymru yn gweithredu'n anghyfreithlon, yn enwedig yn erbyn buddiannau'r iaith Gymraeg. Yng ngoleuni'r adroddiad damniol hwn, mae rhaid iddynt ail-ddechrau darparu Cofnod llawn dwyieithog. Dyna oedd y sefyllfa yn ystod un mlynedd ar ddeg cyntaf y sefydliad, felly nid yw'n gofyn llawer iddyn nhw ddychwelyd i'r arfer hwnnw."

"Galwn ar i bobl Cymru lofnodi ein deiseb er mwyn dwyn pwysau ar ein gwleidyddion i wyrdroi'r penderfyniad. Os byddant yn parhau i anwybyddu eu dyletswyddau cyfreithiol, bydd yn rhaid ystyried sut i'w herio yn y llysoedd."

Ychwanegodd Ceri Phillips, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae'n amlwg o ddarllen adroddiad Bwrdd yr Iaith bod Comisiwn y Cynulliad wedi ceisio pob tric posibl er mwyn osgoi'r dyletswydd cyfreithiol sydd arnynt i gyhoeddi Cofnod cyfan gwbl ddwyieithog. Dyma gorff sydd i fod i'n cynrychioli ni bobl Cymru. Mae'n codi cwestiynau moesol am ymrwymiad y Cynulliad i'r Gymraeg."

"Mae'r Cynulliad wedi ceisio dod allan ohoni bob ffordd yn y mater yma, ac mae adroddiad Bwrdd yr Iaith yn datgan yn bendant ac yn derfynol y dylai'r Cofnod fod yn gwbl ddwyieithog. Mae'n ymddangos bod y Cynulliad yn bwriadu creu Bil neu Ddeddf Iaith ar gyfer gwasanaethau dwyieithog y Cynulliad ei hunan, yn hytrach na dod o dan y Mesur Iaith newydd. Bydd llawer o gwestiynau gennym am y broses yma, ond mae'n gwbl amlwg bellach y byddai'n foesol amhosibl i'r Cynulliad greu Bil o'r fath heb bod creu Cofnod cwbl ddwyieithog yn rhan ohono."