Cynyddu neu ddirywio - beth fydd tynged y Coleg Cymraeg?

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am ychwanegu at ddyletswyddau a chyllid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel yr unig ffordd o sicrhau ei ddyfodol.  

Disgwylir cyhoeddiad buan gan y Llywodraeth am bwy fydd yn cael cytundeb i arwain maes Cymraeg i Oedolion yn genedlaethol, ac mae'r Gymdeithas yn pwyso am roi'r swyddogaeth hon i'r Coleg Cymraeg.  

Mae'r Gymdeithas hefyd wedi dechrau trafod gyda phleidiau gwleidyddol yng Nghymru yr hyn a fydd yn eu maniffestos ar gyfer yr etholiad i'r Cynulliad y flwyddyn nesaf o ran hyrwyddo'r Gymraeg, ac wedi gwneud cynyddu gwaith y Coleg Cymraeg yn un o'r prif gynigion.   

Esbonia llefarydd y Gymdeithas ar addysg Ffred Ffransis:   

"Un o lwyddiannau'r llywodraeth ddiwethaf oedd sefydlu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ond, wedi 5 mlynedd, ni all sefyll yn ei unfan. Mae'n amser i'r Coleg gymryd naid fawr ymlaen neu wynebu bygythiad i'w ddyfodol. Os bydd y Coleg yn aros fel un chwaraewr bach yn unig yn y farchnad gystadleuol addysg uwch a sefydlwyd gan San Steffan, wedyn bydd mewn sefyllfa o wendid a bydd yn demtasiwn i lywodraeth gwtogi ar ei gyllideb. Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw'n hytrach am ddatblygu'r Coleg yn bwerdy addysg uwch Gymraeg. Mae'r llywodraeth yn adolygu dull cyllido addysg uwch trwy ymchwiliad Diamond, ac rydyn ni'n galw ar y llywodraeth i osod targed cynyddol ar gyfer cyrsiau Cymraeg mewn addysg uwch. Wrth osod targed cychwynnol o 10% yn unig o addysg uwch i fod trwy gyfrwng y Gymraeg, dylai'r llywodraeth wedyn roi 10% o'r gyllideb yn uniongyrchol i'r Coleg Cymraeg i'w dosbarthu i brifysgolion yn unol â strategaeth genedlaethol. Gwariant ar addysg yw hwn, nid gwariant ar y Gymraeg, ac mae'n fater rhy bwysig i'w adael at fympwy'r farchnad."   

Ychwanega Mr Ffransis:   

"Byddwn yn trafod gyda phleidiau gwleidyddol roi ymrwymiadau yn eu maniffestos i ddatblygu rôl y Coleg Cymraeg yn bellach. Byddwn yn trafod priodoldeb rhoi cyfrifoldeb am addysg 16+ i'r Coleg, fod y llywodraeth yn dyrannu cyfran gynyddol o brosiectau ymchwil ac astudiaethau dichonoldeb i'r Coleg eu cyfarwyddo trwy eu tîm eang o ddarlithwyr arbenigol, a bod datblygu cyrsiau addysg uwch Cymraeg ar y we. Gall addysg uwch Gymraeg arloesi o ran strwythurau newydd a bydd hyn yn rhoi statws a sicrwydd i'r Coleg am ei ddyfodol."  

Wrth droi at y penderfyniad brys a ddisgwylir, dywed Mr Ffransis:  

"Gall y llywodraeth ddangos ei ewyllys da trwy roi'r cytundeb am ddatblygu Cymraeg i Oedolion i'r Coleg Cymraeg. Mae'n anffodus fod dynwared San Steffan trwy ofyn i sefydliadau gystadlu yn erbyn ei gilydd i ennill y cytundeb mewn marchnadle, ond gall y llywodraeth wneud yn iawn am hyn trwy roi'r cytundeb i'r Coleg Cymraeg"