Cyrff gwrth-Gymraeg yn elwa o'r Mesur Iaith - Rali Porthmadog

Bydd sefydliadau gwrth-Gymraeg yng ngogledd Cymru yn elwa o gynlluniau'r Llywodraeth i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg, yn ôl siaradwyr mewn rali ym Mhorthmadog heddiw (Dydd Sadwrn, 19eg Mehefin).Bydd beirniadaeth lem o fethiannau ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru, Betsi Cadwaladr, i ddarparu gwasanaeth Cymraeg - nid oes un o'r cyfarwyddwyr y corff yn siarad Cymraeg. Mewn adroddiad diweddar gan bwyllgor Ewropeaidd o arbenigwyr, beirniadwyd y GIG yng Nghymru am fethu darparu gwasanaethau Gymraeg digonol.Bydd y bardd Twm Morys a'r canwr Ceri Cunnington hefyd yn annerch y protest. Mae Mr Cunnington yn chwarae rhan y Comisiynydd Iaith y bwriedir ei sefydlu o dan y Mesur Iaith, gan ymweld â Superdrug i gynnal archwiliad i'w gwasanaethau Cymraeg.Wrth feirniadu ymddiriedolaeth Betsi Cadwaladr, bydd yr ymgyrchydd lleol Bethan Russell Williams yn dweud:"Mae Cynllun Iaith Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod allan ar gyfnod o ymgynghoriad yn ddiweddar ond mae ynddo , yn bryderus iawn , nifer fawr o enghreifftiau ble nad yw'r Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal."Mae angen mynd i'r afael â'r diffygion yng Nghynllun Iaith y Bwrdd Iechyd gan fod ynddo nifer fawr o enghreifftiau ble nodir y bydd y Gymraeg yn cael ei defnyddio i gynnig gwasanaeth 'pan fo'n bosibl' a 'phan fo'n addas'. Nid yw hyn yn ddigon da. Mae yn llawer rhy hawdd i'r gwasanaeth iechyd wrthod gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg i ddefnyddwyr gwasanaeth a gwneud hynny gyda chymeradwyaeth Cynllun Iaith ddiffygiol."

Yn siarad cyn y rali, dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Menna Machreth:"Mae'n warthus i glywed fod hyn yn digwydd, a hynny mewn ardal gyda chymaint o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Mae'r bobl yn dechrau sylweddoli nad yw cynlluniau'r Llywodraeth am ddeddfwriaeth newydd yn mynd i sicrhau gwasanaeth gwell i bobl ar lawr gwlad. Fodd bynnag, yr hyn y bydd yn gwneud ydy rhoi hawliau clir i gwmnïau a chyrff geisio osgoi darparu unrhyw wasanaeth Cymraeg."Mae Mesur yr Iaith Gymraeg yn wan iawn. Nid yw unrhyw wleidydd sydd yn pleidleisio dros y Mesur, fel mae fe ar hyn o bryd - heb statws swyddogol, na hawliau i'r unigolyn - yn haeddu ein cefnogaeth."