Daeth ymgyrchwyr iaith o hyd i Leighton Andrews ar eu helfa drysor ar faes yr Eisteddfod heddiw (Dydd Llun Mai 27) ond doedd dim golwg o’r rheolau cynllunio newydd.
Ym mis Mehefin 2011, daeth ymgynghoriad i ben ar ganllawiau cynllunio newydd - TAN
20 - sydd yn disgrifio sut y dylai awdurdodau ystyried effaith y broses ddatblygu ar y Gymraeg. Cafodd y canllawiau presennol eu cyhoeddi dair blynedd ar ddeg yn ôl.
Daeth y brotest yn yr Eisteddfod wedi i nifer o ddatblygiadau tai dadleuol gael eu cymeradwyo gan awdurdodau cynllunio, megis y rhai yn Llanymddyfri a Phenybanc yn
Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd Cen Llwyd, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a arweiniodd yr helfa drysor ar y maes:
“Bydden ni wedi disgwyl i Leighton Andrews achub ar y cyfle sydd yma yn yr Eisteddfod er mwyn cyhoeddi dogfen mor bwysig â TAN 20. Ond er gwelon ni fe ar yr helfa drysor, mae’n siomedig nad yw’n dangos arweiniad ar y materion hyn.
“Dyw Leighton Andrews ddim yn fy nharo i fel dyn a fyddai’n anghofio pethau’n hawdd. Felly, beth mae e wedi bod yn ei wneud am ddwy flynedd os nad yw’n gallu cyhoeddi’r canllawiau hyn? Neu ydy ei weision sifil yn llwyddo i’w redeg cylchoedd o’i amgylch? Mae’r oedi yn awgrymu bod y gwasanaeth sifil a’r gweinidogion yn llusgo eu traed ynghylch y mater. Mae’n debyg nad ydyn nhw’n gweld y Gymraeg fel mater digon pwysig i’w flaenoriaethu, er gwaethaf canlyniadau’r Cyfrifiad yn ddiweddar.”
“Os yw’r Eisteddfod yn mynd i fod yn llwyddiant yn y dyfodol, bydd angen amgylchiadau sydd yn galluogi’r Gymraeg i fyw - a byw yn ein cymunedau. Ni fydd y Gymraeg yn parhau oherwydd cystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod yn unig. Mae’n golygu llawer mwy na hynny, ac mae cymunedau Cymraeg yn hanfodol i’w pharhad. Mae’r canllawiau nad ydynt wedi eu cyhoeddi eto yn rhan o becyn o bethau sydd eu hangen i gryfhau ein cymunedau.”
Dros y 2 flynedd ariannol ddiwethaf, cynhaliwyd dim ond 16 asesiad o effaith
datblygiad ar yr iaith, allan o bron i 50,000 o geisiadau cynllunio a wnaed,
sydd yn 0.03% yn unig. Mae saith Awdurdod Cynllunio Lleol eisoes wedi mabwysiadu
eu cynlluniau yn ffurfiol a disgwylir i 10 awdurdod arall fabwysiadu eu
cynlluniau yn ystod 2013.
Ychwanegodd Bethan Williams, Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
“Mae Maes yr Eisteddfod ar y ffin rhwng tair sir sydd yn hanfodol ar gyfer hyfywedd y Gymraeg dros y blynyddoedd i ddod. Ond eto, mae dwy sir eisoes wedi mabwysiadu eu cynlluniau datblygu lleol, heb dderbyn canllawiau cryfach am eu heffaith ar y Gymraeg. Mae diffyg gweithredu Llywodraeth Cymru yn y maes yn niweidio’r Gymraeg a’i chymunedau.”