Dathlu agoriad y 'Senedd' drwy ddadorchuddio bilfwrdd yn galw am Ddeddf Iaith

lansiad-bilfwrdd-rhodri-bach.jpgAr drothwy dathliadau agor adeilad newydd y Cynulliad Cenedlaethol, bu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw unwaith eto am Ddeddf Iaith newydd heddiw trwy ddadorchuddio bilfwrdd dychanol o Rhodri Morgan. Yno yn cefnogi'r ymgyrch oedd Leanne Wood AC ac Owen John Tomos AC ar ran Plaid Cymru

Lleolir y bilfwrdd ar bwys y maes parcio sydd gyferbyn ag adeilad Scott Harbour, tafliad carreg o adeilad newydd y Cynulliad.lansiad-bilfwrdd-rhodri.jpgAr y bilfwrdd fe ymddengys llun o Rhodri Morgan ynghyd a chrynhoad o’r hyn a ddywedodd yn y Senedd pan drafodwyd y Mesur Iaith yn 1993. Dyma eiriad y bilfwrdd:"People in Wales want rights... That is why it is important to confer these rights on the Welsh language, the speakers of the Welsh language, and those who may not be Welsh-speaking themselves, but want their children to be educated in Welsh as a matter of right.We want... a genuine Welsh Language Bill ...That will be done when we revisit the question of a Welsh language measure when we are in government.CADWA DY AIR RHODRI - KEEP YOUR PROMISE RHODRI"Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod hyn yn ddull addas o ddathlu dydd Gwyl Ddewi ac agoriad adeilad y Senedd newydd. Mae hefyd yn ffordd effeithiol o atgoffa Rhodri Morgan o’r addewid a roddodd yn 1993 i gyflwyno Deddf Iaith rymus.Stori oddi ar wefan y Daily PostStori oddi ar wefan y Western Mail