Dechrau newydd, nid ateb dros dro – galwad Cymdeithas yr Iaith i Gyngor Sir Gâr

Wrth groesawu penderfyniad Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant Cyngor Sir Gaerfyrddin heddiw i roi mwy o amser i ysgol Bancffosfelen a Llanedi baratoi cynllun i sicrhau dyfodol eu hysgol mae'r Gymdeithas wedi galw am i hyn fod yn ddechrau newydd i'r Cyngor yn hytrach na bod yn fesur dros dro.

Dywedodd Ffred Ffransis:
"Rydyn ni'n gobeithio nawr y bydd y Cyngor yn rhoi cyfarwyddiadau i swyddogion beidio llaesu dwylo bellach ond i weithio gyda chymunedau i weld sut orau i ddatblygu ysgolion. Mae cymunedau'n newid ac weithiau mae ysgolion yn dewis cau neu mae'n rhaid eu cau ond dylai hynny ddigwydd pan ddaw hi i'r pen, yn hytrach na bod yn ddewis anorfod. Gallai hyn fod yn gam cyntaf tuag at adfywio cymunedau Cymraeg."