Deddf Eiddo: Disgwyl i'r Llywodraeth ymateb

Wrth gyhoeddi cynigion ar gyfer Deddf Eiddo yng Nghaerdydd heddiw (dydd Mercher 26/10) mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod disgwyl ymateb cadarn gan y Llywodraeth.

Esboniodd Elin Hywel, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith:
"Er ein bod ni'n ymgyrchu dros Ddeddf Eiddo ers yr 80'au mae problemau tai yn waeth nag erioed a natur ein cymunedau wedi newid oherwydd hynny. Gan fod y Llywodraeth wedi ymrwymo yn y Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru i baratoi papur gwyn ar Ddeddf Eiddo, ac wedi dechrau ar bapur gwyrdd, roedd hi'n teimlo'n amserol i ni ddiweddaru'n cynigion ar gyfer Deddf Eiddo a rhoi'r pwyslais ar rymuso cymunedau.
"Mae gor-bwylais ar y farchnad rydd yn golygu bod tai yn cael eu trin fel ased yn hytrach na chartref. Mae ein Ddeddf Eiddo yn glir mai prif ddiben tŷ yw bod yn gartref ac y dylent gael eu defnyddio er lles cymunedau ac yn unol ag anghenion y gymuned honno.”

Ymysg cynigion y Gymdeithas mae:

  • Grymuso cymunedau a mentrau tai fforddiadwy a arweinir gan y gymuned i brynu a phrydlesu tir ac eiddo at ddibenion cymunedol;
  • Hwyluso benthyciadau llog isel i bobl leol a mentrau a arweinir gan y gymuned gan fanc cymunedol
  • Rheoli rhenti landlordiaid preifat a landlordiaid cymunedol i sicrhau eu bod yn fforddiadwy i denantiaid ar incwm is na’r canolrif.
  • Gosod disgwyliadau ar Awdurdodau Lleol i greu Asesiad Cymunedol ar y cyd â chynghorau cymuned unigol a llunio Strategaeth Tai Lleol ar sail yr Asesiad Cymunedol er mwyn ateb gofynion tai gwirioneddol

Ychwanegodd Jeff Smith, ls-gadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith:
"Yn ddiweddar mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi grymoedd newydd i gynghorau lleol, sydd yn ymddangos yn beth da ar yr wyneb, ond mae'n creu gwaith sylweddol i gynghorau, a does dim sôn am gyllid ar gyfer y gwaith hynny. Ac mae sawl peth yn y Cynllun Tai a Chymunedau a gyhoeddwyd rai wythnosau nesaf yn wirfoddol ac yn gamau bach iawn.

"Yn hytrach na gwneud ambell beth yma ac acw sy'n creu mwy o waith yn y pendraw byddai Deddf Eiddo gyflawn yn ateb mwy effeithiol."

Mwy o luniau yma