Bydd y daith 'Deddf Iaith ar daith' yn dod i ben dydd Sadwrn Awst 26ain pan fydd aelodau'r Gymdeithas yn casglu enwau ar y ddeiseb Deddf Iaith y tu allan i Woolworths Aberteifi rhwng 11 y bore a 3 y prynhawn.
Dywedodd Siwan Tomos un o arweinwyr ymgyrch Deddf Iaith y Gymdeithas:"Dros y pythefnos diwethaf mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi bod yn teithio drwy Gymru yn casglu enwau ar ein deiseb sy'n galw am Ddeddf Iaith newydd. Casglwyd miloedd o enwau yn Abertawe, Rhydaman, Pontypridd, Caerdydd, Casnewydd, Aberystwyth, Llangefni, Caernarfon, Pwllheli a Dolgellau. Bydd y daith yn dod i'w therfyn yn Aberteifi.""Bu i'r ymgyrch dros Ddeddf Iaith gymryd cam pendant iawn ymlaen yn yr Eisteddfod Genedlaethol pan siaradodd Adam Price AS o Blaid Cymru, Eleanor Burnham AC o'r Democratiaid Rhydddfrydol a Lisa Francis AC o'r Blaid Geidwadol o blaid cryfhau'r Ddeddf iaith bresennol mewn cyfarfod cyhoeddus ar y Maes.""Byddwn yn parhau gyda'r gwaith o gasglu enwau ar y ddeiseb o hyn i fis Hydref. Wedyn mae'n fwriad gennym drefnu lobi ar Ddeddf Iaith yn y Senedd yn Llundain ac yn y Cynulliad yng Nghaerdydd."Lluniau o'r DaithAbertawe - 14/08/06Rhydaman - 15/08/06Pontypridd - 16/08/06Caerdydd - 17/08/06Rhuthun - 21/08/06Llangefni - 22/08/06Pwllheli - 23/08/06Caernarfon - 24/08/06Caernarfon - 24/08/06Yn y WasgThousands back language campaign - Daily Post - 22/08/06South Wales Evening Post - 16/08/06Campaigners lobby for support - Western Mail - 16/08/06Manylion y DdeisebAr faes Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun ym Mis Mai 2006 fe lansiwyd Deiseb Genedlaethol dros Ddeddf Iaith Newydd.Mae'r Deiseb yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau Deddf Iaith Newydd fydd yn sefydlu statws swyddogol a Chomisiynydd i'r Gymraeg, ynghyd â hawliau sylfaenol fydd yn rhoi cyfleoedd teg a real i bawb yng Nghymru fedru dysgu Cymraeg, derbyn addysg Gymraeg a chael eu galluogi i ddefnyddio'r Gymreg ym mhob agwedd o fywyd.Dychweler unrhyw ddeisebion sydd wedi eu llenwi i Swyddfa Cymdeithas yr Iaith Gymraeg erbyn 1af Hydref 2006.Mae'r ddogfen yma ar gael i'w lawrlwytho mewn PDF:Pwyswch yma i lawrlwytho copi pdf o 'Deiseb Genedlaethol dros Ddeddf Iaith Newydd' (43KB)I ddarllen ffeiliau PDF mae angen copi o Adobe Reader - sydd ar gael am ddim.