Deddf Iaith - Dysgu o brofiadau Catalonia

Alexia Bos SoleDydd Sadwrn yma, (Mawrth 25ain) bydd Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a gynhelir yn Aberystwyth, yn cael cyfle i glywed tystiolaeth rhyngwladol o bwysigrwydd deddfwriaeth gadarn yn y dasg o adfer iaith leiafrifol.

Bydd hyn yn digwydd wrth i siaradwraig wadd y Cyfarfod Cyffredinol,m Alexia Bos Solé o Ganolfan Ciemen yn Barcelona, arwain y sesiwn 'Deddfwriaeth Iaith yn Gwneud Gwahaniaeth – Profiad Catalonia'.Yn ystod y cyflwyniad hwn mae disgwyl i Ms Solé dystio i'r modd mae cysyniadau megis hawliau swyddogol a hawliau iaith wedi bod yn gonglfeini i bolisi a deddfwriaeth iaith yng Nghatalonia ers dros ugain mlynedd. Ymhellach mae disgwyl iddi nodi fod meddu ar hawliau a statws o'r fath yn hanfodol os am hybu ac ehangu'r defnydd o iaith leiafrifol.Yn sicr bydd clywed dadleuon o'r fath yn hwb pellach i ymgyrch bresennol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Iaith newydd i Gymru.Cyfarfod Cyffredinol 2006Yn ogystal a thrafod materion sy'n ymwneud â'r angen am Ddeddf Iaith Newydd bydd y Cyfarfod Cyffredinol hefyd yn clywed am ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith mewn meysydd eraill megis addysg a thai a chynllunio. Bydd nifer o gynigion gwahanol yn cael eu trafod gan adlewyrchu holl weithgarwch y mudiad dros y flwyddyn ddiwethaf.Nodiadau Cefndir

  • Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth rhwng 10 y bore a 4y prynhawn dydd Sadwrn Mawrth 25ain.

  • Bydd Alexia Bos Solé yn siarad am 2 o’r gloch. Mae Ms Solé yn gweithio i sefydliad Ciemen yn Catalonia. Mae Ciemen wedi bod yn gweithio ym maes ieithoedd lleiafrifol ar draws Ewrop a thu hwnt ers y 1970au. Hwn oedd y corff oedd yn gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo'r Datganiad Byd-Eang o Hawliau Ieithyddol a Gyflwynwyd i UNESCO yn 1996.
  • Mae Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu dros Ddeddf Iaith Newydd i Gymru, deddf a fyddai'n sicrhau statws swyddogol i'r Gymraeg ac yn sefydlu lefel sylfaenol o hawliau ieithyddol i bobl Cymru. Mae hwn yn bwnc sydd yng nghanol yr agenda wleidyddol ar hyn o bryd yn sgil penderfyniad llywodraeth y Cynulliad i ddiddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
  • Growing campaign for Welsh language - newswales.co.uk