Deddf Iaith newydd - Cynhadledd i gychwyn trafodaeth amserol.

Dydd Sadwrn yma (Mawrth 12, 2005), bydd Cymdeithas yr iaith Gymraeg yn cynnal Fforwm Genedlaethol i drafod yr angen am Ddeddf Iaith Newydd. Cynhelir y fforwm yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth. Ymhlith y cyfarnwyr bydd Hywel Williams – aelod Seneddol Caernarfon – a fydd yn amlinellu cynnwys y mesur iaith y mae’n bwriadu ei gyflwyno i senedd San Steffan.

Yn sicr, mae hwn yn ddigwyddiad amserol iawn. Meddai Huw Lewis, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:“Bellach mae dros ddeng mlynedd ers pasio’r hen ddeddf iaith ac felly mae’n amser priodol i ail-edrych ar y mesur, gan ystyried ffyrdd o’i ddiwygio a’i gryfhau.“Ar ben hynny, mae penderfyniad Llywodraeth y Cynulliad i ddileu Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi newid yr hinsawdd wleidyddol yn sylfaenol. Prif bwrpas Deddf Iaith 1993 oedd i sefydlu Bwrdd yr Iaith fel corff statudol. O ganlyniad, trwy ddileu y corff hwnnw, mae’r llywodraeth hefyd yn dileu holl sylwedd y ddeddf.“Ymhellach, mae cyfred o ddigwyddiadau diweddar wedi tynnu sylw at rai o wendidau sylfaenol yr hen ddeddf iaith. Er enghraifft, roedd y sylw i’r diffyg gwasanaeth Cymraeg gan gwmniau megis Orange, Arriva a McDonalds yn pwysleisio nad yw’r ddeddf yn delio gyda’r sector preifat, sydd bellach mor ddylanwadol. Yn yr un modd, roedd y sylw i bolisiau penodi staff rhai Cynghorau Sir er enghraifft Caerfyrddin a Cheredigion yn pwysleisio nad yw’r ddeddf wedi llwyddo i sicrhau statws teilwng i’r Gymraeg o fewn y sector cyhoeddus.“Felly, o ystyried y sefyllfa bresennol, gwelir bod mawr angen trafodaeth gyhoeddus ynglyn a’r angen am Ddeddf Iaith Newydd. Ein gobaith yw y bydd y fforwm yn fodd o gychwyn trafodaeth o’r fath”Mae gwybodaeth pellach am y fforwm, yn cynnwys Rhaglen y Dydd a Ffurflen Gofrestru ar gael yma.