Deddfu dros y Gymraeg yng Nghymru - Y Cyfle a'r Cyfrifoldeb

Rhodri Glyn ThomasAm 11 o'r gloch bore heddiw fe wnaeth dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gyfarfod a'r Gweinidog Treftadaeth Rhodri Glyn Thomas AC yng Nghaerdydd i drafod cynlluniau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer deddfwriaeth newydd ym maes y Gymraeg. Fe wnaeth Hywel Griffiths, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Rhun Emlyn, cadeirydd grwp Deddf Iaith Newydd a Sioned Haf, swyddog ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith gyflwyno neges y Gymdeithas i'r Gweinidog er mwyn sicrhau bod cynlluniau'r Gweinidog ar gyfer deddfwriaeth yn gynhwysfawr ac yn dangos gweledigaeth glir ar gyfer deddfu yn y maes.

Cadarnhaodd y Gweinidog y bydd cais Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol yn cael ei gyflwyno yng Ngwanwyn 2008, a byddai hynny'n golygu, wedi iddo basio trwy San Steffan, y gallai Llywodraeth y Cynulliad fwrw ymlaen erbyn Hydref 2009 i drafod cynnwys deddfwriaeth newydd ym maes y Gymraeg.Dywedodd Sioned Haf,"Cefnogwn y cais am bwerau i ddeddfu yn y maes ond pwysleisiwn y bydd hi'n angenrheidiol cynnwys y tri egwyddor sylfaenol o sefydlu'r Gymraeg fel iaith swyddogol, sicrhau hawliau ieithyddol i bobl Cymru fel defnyddwyr gwasanaethau ac fel gweithwyr, ac i sefydlu Comisiynydd Iaith Gymraeg."Mae'r Gymdeithas yn croesawu bwriad gan Rhodri Glyn Thomas i sefydlu hawliau fydd yn sicrhau gwasanaeth dwyieithog o fewn y sector breifat. Datgelodd y Gweinidog ei fod yn cydweithio a rhai cwmniau i sicrhau polisi iaith gwirfoddol.Dywedodd Rhun Emlyn,"Mae Cymdeithas yr Iaith yn cydnabod bod gwaith gwerthfawr yn cael ei wneud ar hyn o bryd, ond mynnwn bod rhaid cael deddfwriaeth gadarnhaol er mwyn sicrhau hawliau o fewn y sector breifat. Mae'r holl waith protestio a lobio a wnaed gennym yn erbyn cwmniau, gan gynnwys Morrisons a Tesco yn ddiweddar, yn dangos na fydd yna ddarpariaeth ddwyieithog gynhwysfawr os na fydd hi'n cael ei sicrhau ar draws y sector gyfan gan ddeddfwriaeth.â"Ychwanegodd Hywel Griffiths,"Mynnwn fod yn rhaid i unrhyw ddeddf a fydd yn cael ei basio wedi i'r Llywodraeth dderbyn pwerau deddfu ym maes y Gymraeg, fod yn ddeddf a fydd yn cwmpasu y sector breifat yn ei chyfanrwydd. Fel arall fe fydd cyfle yn cael ei golli am ddegawd a mwy. Yr hyn sydd ei angen yw bod y ddeddf yn un gynhwysfawr, sydd wedi ei strwythuro fel y bydd rheidrwydd ar cwmniau mawrion i gydymffurfio'n syth ond a fydd hefyd yn cynnig cymorth ymarferol i fusnesau llai i gydymffurfio hefyd."Yn dilyn y cyfarfod buddiol hwn, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal deialog gyson gyda'r Gweinidog er mwyn sicrhau bod ein gofynion yn cael sylw, ac hefyd yn parhau i lobio cwmnioedd fel Morrisons a Tesco.