Dyw defnydd y Gymraeg yn y Cynulliad heb gynyddu ers dechrau datganoli yn ôl ymchwil Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a gafodd ei ryddhau heddiw (Dydd Iau, Ebrill 3ydd).
Er bod tua thraean o Aelodau Cynulliad yn gallu siarad y Gymraeg, cafodd y Gymraeg ei defnyddio yng nghyfarfodydd llawn y ddeddfwrfa ond 12% o’r amser yn y flwyddyn ddiwethaf, yr un canran â thymor cyntaf y sefydliad yn ôl ym 1999. Mae’r ffigyrau, sydd wedi eu cyhoeddi ar wefan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, hefyd yn dangos mai’r cyn-Lywydd Dafydd Elis-Thomas sydd ar frig y rhestr o ran faint o’i areithiau yn y Cynulliad sydd yn Gymraeg.
Mae’r ffigyrau hefyd yn dangos bod Aelodau Cynulliad Ceidwadol yn defnyddio’r Gymraeg 2% o’r amser, Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol 6% o’r amser, a Phlaid Cymru mewn 54% o’r trafodaethau yn siambr y Senedd.
Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae'r ffigyrau hyn yn dangos nad yw ein Cynulliad Cenedlaethol yn llwyddo i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae defnydd o’r Gymraeg yn parhau i fod yn isel iawn; does dim cynnydd go iawn wedi bod ers dechrau datganoli. Mae nifer o sefydliadau yn gwneud llawer yn well - a dylai hynny fod yn fater o gryn embaras i’n fforwm democrataidd cenedlaethol. Nid yw'r Cynulliad yn sefydliad gwirioneddol Gymraeg, er gwaethaf ei ymrwymiadau cyhoeddus - rhaid i hynny newid.”
“Mae Comisiwn y Cynulliad wedi dewis eithrio ei hun o ddyletswyddau cyrff eraill i ddarparu gwasanaethau Cymraeg - y safonau iaith newydd. Mae baich arbennig arno felly i brofi ei fod yn mynd i wella’n sylweddol o dan ei gyfundrefn unigryw. Fel mudiad, rydym wedi cwrdd nifer o weithiau gyda swyddogion y Cynulliad dros y ddwy flynedd ddiwethaf i bwyso arnyn nhw i wella’r cynllun iaith. Mae’r ffaith eu bod nhw’n dal i gyhoeddi nifer o ddogfennau yn Saesneg cyn eu cyhoeddi yn Gymraeg, yn arwydd o’u diffyg ymrwymiad i greu awyrgylch gwirioneddol Gymraeg. Er enghraifft, addawodd swyddogion y Cynulliad y byddan nhw’n sicrhau bod y Cofnod yn cael ei gyhoeddi yn Gymraeg ar yr un pryd â’r Saesneg. Fodd bynnag, nid yw’n ymddangos bod hynny’n mynd i ddigwydd. Mae gwendidau hefyd yn eu polisïau recriwtio a’u trefniadau ynghylch hyfforddiant Cymraeg i staff.”
Wrth drafod y ffigyrau am ddefnydd y Gymraeg gan Aelodau Cynulliad unigol, ychwanegodd Mr Farrar: “Nid ydym am feirniadu unigolion am eu defnydd o’r Gymraeg, oherwydd bod eu penderfyniadau unigol yn cael eu llywio gan systemau a’r hinsawdd ieithyddol yn y Cynulliad. Fodd bynnag, mae Dafydd Elis-Thomas yn haeddu canmoliaeth am ei ddefnydd cyson o’r Gymraeg, ac rwy’n gobeithio y bydd rhagor o Aelodau Cynulliad yn dilyn ei esiampl. Gallen nhw wneud cyfraniad uniongyrchol at normaleiddio’r Gymraeg ar lawr gwlad drwy ddangos arweiniad ar lefel genedlaethol. Mae’n werth nodi hefyd bod nifer o ddysgwyr yn gwneud ymdrech i ddefnyddio’r iaith, ac mae angen i’r sefydliad eu cefnogi er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gallu defnyddio mwy eto ar y Gymraeg.
“Mae’r gwahaniaeth ynghylch defnydd yr iaith rhwng y gwahanol bleidiau gwleidyddol yn awgrymu bod gwaith i’w wneud o ran gwella’r diwylliant o fewn rhai o’r pleidiau hynny. Gobeithio y byddan nhw’n edrych ar ffyrdd i ehangu ei defnydd ar bob achlysur.”