Deiseb i wrth-droi toriadau i brosiect Cymraeg i blant

Mae mudiad iaith wedi lansio deiseb yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i wrthdroi'r toriadau i brosiect sy'n hybu defnydd y Gymraeg yn y teulu.

[Cliciwch yma i lofnodi'r ddeiseb]

Cafodd y cynllun 'Twf' ei ddiddymu ddechrau mis Ebrill eleni, gan gael ei ddisodli gan raglen newydd 'Cymraeg i Blant' sy'n cael ei redeg gan Fudiad Meithrin. Ond cafodd cyllideb y cynllun newydd ei dorri o ddau gan mil o bunnoedd y flwyddyn o gymharu â chyllideb Twf y llynedd. O ganlyniad, ni fydd y prosiect newydd sy'n olynu Twf yn gweithredu mewn nifer o siroedd, ac mae'r ddeiseb yn galw am adfer swyddi sy'n rhedeg y prosiect yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Ddinbych, Sir Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Sir Fynwy, Torfaen a Wrecsam. 

Meddai Toni Schiavone, Cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae trosglwyddiad iaith o fewn y teulu yn allweddol os ydyn ni am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Bu'r prosiect Twf yn rhan bwysig iawn o'r ymdrech i wella defnydd o'r Gymraeg rhwng rhieni phlant, ac mae'n destun pryder na fydd unrhyw brosiect yn rhedeg mewn nifer fawr o siroedd. Rydym yn annog cefnogwyr y Gymraeg i arwyddo'r ddeiseb er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth newydd a fydd gyda ni ar ôl mis Mai yn gwrth-droi'r toriadau hyn."

"Buddsoddi rhagor yn y Gymraeg oedd un o brif negeseuon a ddaeth o'r gynhadledd fawr drefnodd y Llywodraeth yn sgil canlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad. Yn lle hynny, rydyn ni wedi gweld llawer llai o arian yn cael ei fuddsoddi yn y Gymraeg. Mae torri prosiect sy'n cynnig cymorth i blant bach a'u rhieni yn gamgymeriad difrifol."