Is-deitlau – trafodaeth adeiladol ond "angen ymddiheuriad"

Yn dilyn cyfarfod "adeiladol" gyda swyddogion S4C heddiw, rydym yn parhau i alw am sicrwydd y bydd unrhyw is-deitlau ar y sianel yn ddewisol ac ar gael yn Gymraeg.

Yn y cyfarfod cytunodd swyddogion S4C i "ymchwilio ar y cyd i'r defnydd o dechnoleg i gynyddu'r nifer o is-deitlau Cymraeg", ond roedd Cymdeithas yr Iaith wedi galw am ymrwymiadau pellach. 

Mae'r cyfarfod yn dilyn cynllun 5-diwrnod o is-deitlau Saesneg gorfodol ar raglenni oriau brig S4C, a chwyn a anfon ni at Ofcom ddydd Llun: http://cymdeithas.cymru/dogfen/deitlau-saesneg-ar-s4c-cwyn-swyddogol-i-ofcom
 

Dywedodd David Wyn, is-gadeirydd grŵp Dyfodol Digidol y Gymdeithas, 

"Cawson ni gyfarfod adeiladol gyda swyddogion S4C ond mae'n anffodus nad yw'r sianel wedi syrthio ar eu bai. Mae angen iddyn nhw ddatgan yn glir na fydden nhw'n ail-adrodd arbrawf yr wythnos hon nac yn ehangu'r defnydd o is-deitlau gorfodol dan unrhyw amodau, ac ry'n ni dal yn ddisgwyl iddyn nhw wneud hynny. Ble mae'r ymddiheuriad i holl wylwyr S4C am yr anghyfleustra a achoswyd yr wythnos hon oherwydd is-deitlo Saesneg gorfodol ar y sianel?" 

"Ein safbwynt ni yw y dylai is-deitlau fod yn Gymraeg ac yn ddewisol yn unig – eu prif diben yw ar gyfer pobl gyda nam ar eu clyw, ond eto dim ond canran pitw sydd ar gael ar hyn o bryd. Dylen nhw weithio tuag at ddarparu is-deitlau Cymraeg ar 80% o raglenni, fel sy'n ofynnol yn ôl rheolau darlledu. Ry'n ni'n falch eu bod wedi cytuno heddiw i ymchwilio fel cam cyntaf yn y cyfeiriad cywir."