Mewn llythyr agored i'r wasg heddiw, mae rhai o awduron amlycaf Cymru yn nodi eu pryder am yr hyn fydd yn cael ei gynnig yng Nghynllun Datblygu Lleol siroedd Gwynedd a Môn.
Gobaith y cynllun fydd gweld adeiladu bron i 8,000 o dai yn y ddwy sir yn ystod y degawd nesaf.
Mae'r awduron, sydd yn cynnwys golygydd Geiriadur yr Academi Dr Bruce Griffiths ac enillydd “Barn y Bobl” yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2013, Dewi Prysor yn galw ar y ddau Gyngor i gychwyn drachefn ar y cynllun, gan wneud arolwg llawn o'r angen lleol am dai a gwasanaethau ym mhob cymuned, ac na fydd defnyddio ffigyrau haniaethol o ddim cymorth i'r Gymraeg.
Meddai Angharad Tomos – aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac un o'r awduron sydd wedi llofnodi'r llythyr.
“Rydym yn falch o fod wedi gallu cydlynu'r llythyr agored yma. Erbyn hyn mae'n glir i ni fod anfodlonrwydd mawr yn bodoli ynglŷn â'r cynllun i adeiladu miloedd o dai yn y ddwy sir. Fel un syn poeni am ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol, ac fel un syn cael gwahoddiad i'r cymunedau hynny yn aml fel awdur, ni allaf bwysleisio pwysigrwydd y cymunedau hynny i barhad y Gymraeg.”
“Mae'n fater syml, er mwyn creu Cynllun Datblygu Lleol cynaliadwy i gymunedau Gwynedd a Môn, rhaid cynnal gwaith ymchwil manwl ym mhob cymuned er mwyn sicrhau dyfodol i'r Gymraeg yn ein cymunedau.”
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cydlynu llythyrau tebyg yn y wasg yn ystod yr wythnosau nesaf gan gerddorion, beirdd, athrawon, pobol ifanc, er mwyn dwyn pwysau ychwanegol ar y ddau Gyngor i weithredu yn dilyn i fyny i Rali “NA i 8000 o dai” fydd yn cael ei chynnal yng Nghaernarfon ar Fawrth 29 ain.
Llythyr Agored i'r Wasg – Cynllun Datblygu Lleol
Fel sgwennwyr a chyhoeddwyr sy'n dibynnu ar y Gymraeg am ein cynhaliaeth, pryderwn am y diffyg ymchwil gan Gynghorau Gwynedd a Mon wrth baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol. Galwn arnynt i gychwyn drachefn ar y cynllun gan wneud arolwg llawn o'r angen lleol am dai a gwasanaethau ymhob ardal. Rydym yn grediniol na fydd seilio cynllun ar ffigyrau haniaethol a chodi bron i 8,000 o dai newydd o ddim cymorth i'r Gymraeg. Yn wir, gallai beri niwed enbyd iddi.
Angharad Tomos
Angharad Blaidd
Bethan Wyn Jones
Angharad Price
Bethan Gwanas
Bruce Griffiths
Dewi Prysor
John Rowlands
Meg Elis
Haf Llywelyn
Leusa Fflur
Cefin Roberts