Ni fydd gweithredu radical i ddatrys yr argyfwng tai yng Nghymru a diogelu cymunedau Cymraeg oni bai i bobl ddod mewn nifer mawr i Rali Nid yw Cymru ar Werth ym Mlaenau Ffestiniog ar Fai 4 i ddangos cryfder teimladau
Mae pryderon ymysg ymgyrchwyr iaith nad yw’r Llywodraeth yn deall maint yr argyfwng sy’n wynebu cymunedau Cymraeg, a na fydd polisïau digon blaengar i fynd at wraidd y broblem yn cael eu mabwysiadu.
Mewn galwad i gefnogwyr yr ymgyrch dros Ddeddf Eiddo, dywedodd un o drefnwyr y rali, Osian Jones:
“Mewn cyfarfodydd gyda swyddogion Adran Tai a Chynllunio Llywodraeth Cymru, mae Cymdeithas yr Iaith wedi'i siomi'n fawr â'u diffyg dealltwriaeth o broblemau sy'n wynebu pobl leol wrth geisio cael hyd i gartrefi am bris fforddiadwy yn eu cymuned, a'u diffyg dealltwriaeth o'r chwalfa i gymunedau Cymraeg.
“Heblaw bod pwysau mawr ar y Llywodraeth cyn yr haf, mae gwir beryg na fydd Papur Gwyn y Llywodraeth ar Dai yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cymunedau. Yn ymarferol, dyma'r cyfle olaf yn y tymor Seneddol hwn i gyflwyno a phasio deddfwriaeth fydd yn rheoli'r farchnad dai er budd pobl leol ac yn cynllunio datblygiadau newydd yn ôl anghenion ein cymunedau.
“Wedi degawdau o ymgyrchu a dirywiad yn ein cymunedau, mae angen gweithredu radical rwan. Y galwad mawr felly fydd "Deddf Eiddo - Dim Llai", a’r gobaith yw y bydd Stiniog ac ardaloedd cyfagos Traws, Penrhyn, Port, Penllyn a Dyffryn Conwy'n arwain y ffordd a bod pawb sy’n poeni am ddyfodol ein cymunedau Cymraeg yn dod mewn cannoedd neu filoedd i'r rali.”
Daw’r rali, sy’n cael ei chynnal ar ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, rai misoedd cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei Phapur Gwyn hir-ddisgwyliedig ar “Yr Hawl i Dai Digonol” a chyn i’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg dan gadeiryddiaeth yr Athro Seimon Brooks gyhoeddi ei hadroddiad terfynol.