Diffyg Athrawon Cymraeg: Galw am ‘newidiadau brys’

Mae mudiad iaith wedi galw am newidiadau mawr er mwyn cynyddu’n sylweddol nifer yr athrawon sy’n addysgu drwy’r Gymraeg, cyn i’r Llywodraeth gyhoeddi rheoliadau addysg newydd yr wythnos yma.

Ers pedair blynedd, mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw am newidiadau er mwyn sicrhau bod digon o athrawon cyfrwng Cymraeg er mwyn cyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae’r mudiad yn galw ar y Llywodraeth:

  • i osod targedau statudol ar golegau hyfforddi athrawon er mwyn cynyddu canrannau'r bobol fydd yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg; 
  • i gyflwyno rhaglen ddwys o hyfforddiant mewn swydd gwahaniaethol yn y gweithle;
  • i sicrhau mai nod pob un cwrs yn y cynllun sabothol yw bod gweithwyr yn mynd ymlaen i addysgu drwy’r Gymraeg wedi’r cwrs, gyda thystysgrif sgiliau fel gwarant;
  • i ymestyn cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon am hyd at flwyddyn ychwanegol i alluogi darpar athrawon i ddysgu Cymraeg a gloywi iaith; ac
  • i fabwysiadu strategaeth benodol ar gyfer cynllunio’r gweithlu addysg Gymraeg

Mae disgwyl i’r Llywodraeth gyhoeddi rheoliadau newydd ar gyfer cynlluniau statudol 10 mlynedd i gynghorau, a fydd yn gosod targedau i ehangu addysg Gymraeg erbyn 2030.

Meddai Toni Schiavone, Is-gadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:

“Rydyn ni’n croesawu ymdrechion y Llywodraeth i gryfhau’r cynlluniau addysg Gymraeg presennol. Fodd bynnag, dyw’r Llywodraeth ddim wedi gwneud hanner digon i wella pethau o ran cynllunio’r gweithlu, yn enwedig cynyddu nifer yr athrawon sy’n addysgu drwy’r Gymraeg. Ers blynyddoedd bellach, rydyn ni wedi bod yn pwyso ar y Llywodraeth i weithredu ar hyn, ond dydyn nhw ddim wedi gweithredu o ddifri. Er mwyn cael y cynnydd mae pawb am ei weld, bydd rhaid iddyn nhw wrando yn y pen draw. 

“Mae angen strategaeth benodol ar gyfer cynllunio’r gweithlu addysg Gymraeg er mwyn cyrraedd targedau’r Llywodraeth. Yn y strategaeth honno, mae angen gosod targedau, neu loriau, statudol ar ddarparwyr hyfforddiant cychwynnol athrawon o ran nifer a chanran y myfyrwyr sy’n cychwyn a/neu’n cwblhau cyrsiau hyfforddiant cychwynnol fydd yn medru addysgu drwy’r Gymraeg. Mae’r Llywodraeth ar hyn o bryd yn gosod ‘cap’ ar nifer y myfyrwyr sy’n astudio ar gyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon. Mae’n glir felly bod gan y Llywodraeth y grym, yr awydd a’r gallu i ymyrryd yn genedlaethol ar y cyrsiau hyn mewn rhai meysydd er mwyn cynllunio’r gweithlu addysg. Felly, dylai’r Llywodraeth osod targedau, neu loriau, ar gyfer nifer a chanran y myfyrwyr sy’n medru addysgu drwy’r Gymraeg adeg recriwtio ac wedi’r cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon. Wedi’r cwbl, mae gwneud hynny yn hanfodol er mwyn cyrraedd targedau strategaeth iaith y Llywodraeth.”

Ychwanegodd:

“Er ein bod yn gwerthfawrogi ymdrechion swyddogion i wneud eu gorau glas o fewn cyfyngiadau’r ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol, mae’n gwbl amlwg bellach bod angen Deddf Addysg Gymraeg er mwyn cyflawni gweledigaeth miliwn o siaradwyr y Llywodraeth. Wedi’r cwbl, dyna oedd yr argymhelliad clir gan banel o arbenigwyr y Llywodraeth yn gynharach eleni. Mae’n hen bryd i’r Llywodraeth wrando ar yr arbenigwyr.”