Dim gorfodaeth gyfreithiol i ddysgu’r Saesneg meddai Gweinidog

Mae mudiad iaith wedi croesawu’r newyddion heddiw (dydd Llun, 4ydd Chwefror) na fydd y cynnig ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth ar y cwricwlwm i orfodi dysgu Saesneg  yn ymddangos yn y ddeddfwriaeth wedi’r cwbl.    

Dywedodd Mabli Siriol, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith: 

“Hoffwn i longyfarch pobl Cymru am siarad allan a gorfodi tro pedol y Llywodraeth o fewn wythnos. Rydyn ni’n falch iawn o ddatganiad y Gweinidog nad yw’r cynnig i orfodi dysgu’r Saesneg yn mynd i fod yn y ddeddfwriaeth gynradd. Mae sylwadau’r Gweinidog yn dangos bod grym y bobl yn gallu newid polisi, ac yn wers i ni i gyd ddefnyddio’r grym democrataidd hwnnw yn rheolaidd.” 

“Wrth reswm, rydym yn croesawu’r tro pedol, ond mae cwestiynau difrifol i'w gofyn am agweddau tuag at addysg Gymraeg o fewn y Llywodraeth all arwain at gynnwys y fath gymal. Gan ein bod yn symud at system addysg sy’n addysgu’n bennaf drwy gyfrwng Cymraeg, mae’n hollbwysig bod y rhai sy’n datblygu’r cwricwlwm gyda dealltwriaeth gadarn o addysg Gymraeg.”