Dim hawl i siarad Cymraeg yn San Steffan

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu sylwadau'r Gweinidog Chris Grayling heddiw wrth iddo wadu hawl Aelodau Seneddol i siarad Cymraeg yn y Senedd.

Dywedodd Manon Elin, Cadeirydd grŵp hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae'n hawl ddynol sylfaenol i siarad Cymraeg, ac mae ei ddadl yn hurt ac yn anwybodus. Mae ef wedi dwyn anfri ar Senedd San Steffan, ei swyddfa a'i Lywodraeth. Bydd pobl Cymru yn clywed ei sylwadau ac yn dod i'r casgliad nad oes ots gan y Llywodraeth am y Gymraeg, iaith fyw hynaf Ewrop."