Mae protestio Cymdeithas yr Iaith dros newidiadau polisi yn sgil canlyniadau’r Cyfrifiad wedi dwyn ffrwyth, dyna oedd neges Cadeirydd y mudiad wrth iddo gael ei ddirwyo gan Lys Ynadon Aberystwyth heddiw (10yb, Dydd Gwener, Awst 1af).
Ym mis Mai eleni, paentiodd Robin Farrar a Bethan Williams, cadeirydd a chyn-gadeirydd y mudiad iaith, sloganau megis “Addysg Gymraeg i Bawb” ar wal adeilad Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth. Gorchmynnodd yr ynadon i Robin Farrar a Bethan Williams dalu iawndal o £90 yr un, ond ni chodwyd costau arnyn nhw. Dywedodd y ddau na fyddan nhw’n talu.
Roedd y brotest yn un o gyfres o brotestiadau yn galw ar y Llywodraeth i ymgorffori 6 phwynt sylfaenol yn ei pholisïau, gan gynnwys addysg Gymraeg i bawb, tegwch ariannol i'r iaith, a threfn gynllunio newydd, er mwyn cryfhau’r Gymraeg.
Mewn datganiad polisi ym mis Mehefin eleni, cafwyd newid polisi pan ddywedodd y Prif Weinidog “bod rhaid i’r system gyfredol o addysgu… Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg newid” gan ddatgan ei bod ‘[yn] bwysig bod holl ddisgyblion Cymru – p’un ai ydynt yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg neu ysgol cyfrwng Saesneg – yn cael cefnogaeth i siarad y Gymraeg yn hyderus.” . Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi dweud ei fod “[yn] archwilio pob cam ymarferol i gryfhau’r Gymraeg yn y system cynllunio.” Ymhellach, cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai’r Gymraeg ar wyneb ei Fil yn ymwneud â datblygu cynaliadwy.
Wedi’r achos llys, dywedodd Robin Farrar: “Rydyn ni ac ymgyrchwyr eraill wedi llwyddo gosod yr agenda o ran sefyllfa’r iaith, ond rhaid dal ati i weithredu. Mae Llywodraeth Carwyn Jones, hyd yn oed, bellach yn cydnabod bod angen diwygio’r drefn gynllunio er budd y Gymraeg, ac bod angen symud tuag at addysg Gymraeg i bawb - dyna ddau o’r chwe pheth roedden ni’n galw amdanynt wrth weithredu yn Aberystwyth. Ond nid yw geiriau Carwyn Jones yn ddigon - mae angen iddo gymryd cyfrifoldeb a gweithredu. Fel ymgyrchwyr, mae dyletswydd arnon ni i ddangos bod gweithredu’n bosib - dyna pam gyhoeddon ni fil cynllunio amgen ein hunain, dyna pam fod ein cefnogwyr heddiw yn llenwi cerdiau post ynglŷn ag addysg a chynllunio, a dyna pam dorron ni’r gyfraith a chymryd cyfrifoldeb.”
Dywedodd Bethan Williams, un o’r gweithredwyr eraill, bod gweithredu uniongyrchol ond yn rhan o ymgyrch ehangach gan Gymdeithas yr Iaith: “Os oes unrhyw amheuaeth pam, mewn gwlad ddemocrataidd, ein bod ni wedi gweithredu – pam bod nifer o bobl wedi gweithredu yn enw ymgyrch y chwe pheth dros y misoedd diwethaf dyma esboniad. Am fod cyfle i ddylanwadu, cyfle i newid, cyfle i fod yn rhan o ddemocratiaeth… Rydyn ni wedi bod ar hyd llwybr dulliau traddodiadol democratiaeth – wedi llythyru, cyfarfod, ymateb i ymgynghoriadau, wedi achub ar bob cyfle, ond eto mae'r Llywodraeth wedi dal i roi'r Gymraeg i’r naill ochr. Mae'r hyn rydyn ni, a'r niferoedd eraill wedi ei wneud er mwyn cyfrannu at ddemocratiaeth, ac annog trafodaeth.”