Diwedd Radio Ceredigion - Galw am bwerau darlledu i Gymru

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am ddatganoli pwerau darlledu i Gymru yn dilyn y newyddion bod Ofcom wedi derbyn cais i ddod â Radio Ceredigion i ben, gyda'r donfedd yn cael ei rhoi i sianel uniaith Saesneg..   

Meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith:   

"Mae'n gwbl amlwg nad yw'r system ddarlledu dan reolaeth San Steffan yn cael ei chynnal er lles Ceredigion na Chymru. Datganoli darlledu yw'r unig ateb. Dylid yn y lle cyntaf ddatganoli’r rheoleiddwyr fel y gallwn ni fel cenedl benderfynu beth yw’n gofynion ni o ran darlledwyr y genedl.   

“Mae Llywodraeth Prydain, drwy Ofcomwrthi'n ceisio llacio rheoleiddio ymhellach – gyda dim gofyniad i radio masnachol gynnwys newyddion cenedlaethol am Gymru na darlledu yn Gymraeg. Mae gwir angen datganoli darlledu i Gymru i ni fel cenedl allu gosod rheolau ein hunain, wedi'i seilio ar beth sy'n bwysig i ni. Pa synnwyr mae'r wlad drws nesaf i ni sy'n gyfrifol am ddarlledu yn y wlad?"    

Ofcom sydd yn rheoleiddio radio lleol drwy wledydd ynysoedd Prydain ond mae Cymdeithas yr Iaith yn gweld datganoli rheoleiddwyr radio lleol fel un o'r camau cyntaf tuag at ddatganoli darlledu i Gymru.