Daeth dros 150 o gefnogwyr y Gymraeg ynghyd mewn rali Cymdeithas yr Iaith i godi llais am ganlyniadau'r Cyfrifiad ym Merthyr Tudful heddiw (11yb, Dydd Sadwrn, 5ed Ionawr).
Cododd y dorf arwyddion yn dweud 'dwi eisiau byw yn Gymraeg'’ a rhannwyd copïau o’i ‘maniffesto byw’ sydd yn cynnwys dros ugain o bolisïau gyda’r nod o gynyddu’r defnydd a’r nifer o siaradwyr Cymraeg.
Yn ôl y Cyfrifiad, mi oedd ugain mil yn llai o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru - lawr o bron i 21% ddegawd yn ôl i 19%. Targed Llywodraeth Cymru oedd cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o 5% i dros chwarter y boblogaeth.
Annerchwyd y dorf gan ddisgybl ysgol leol Morgan Powell, yn ogystal ag Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, a’r awdures Catrin Dafydd. Perfformiodd y cerddorion lleol Kizzy Crawford a Delyth McLean hefyd. Yn siarad ar ôl y rali, dywedodd Morgan Powell, disgybl 16 mlwydd oed yn Ysgol Rhydywaun sydd yn aelod o Gymdeithas yr Iaith:
“Mae fy rhieni i, ynghyd â chynifer eraill, eisiau i ni fyw ein bywydau yn Gymraeg - dyna pam maen nhw wedi buddsoddi cymaint mewn addysg Gymraeg. Mae angen i ni drysori a chryfhau ein hetifeddiaeth unigryw, sef yr iaith Gymraeg.
“Ond nid yw’r awdurdod lleol na Llywodraeth Cymru yn anrhydeddu ymroddiad pobl leol i’r Gymraeg. Dyna pam mae’r Gymraeg yn wynebu argyfwng. Mae canlyniadau torcalonnus y Cyfrifiad wedi dangos fod yr awdurdodau wedi methu yn eu nod o gynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg ac, yn waeth, bod eu dulliau o wneud hynny wedi cael effaith niweidiol ar sefyllfa'r iaith. Fel person ifanc o fewn addysg Gymraeg credaf fod angen newidiadau radical a blaengar yn agwedd yr awdurdodau, yn ogystal â newidiadau sylfaenol i'r system addysg a'r ffordd caiff yr iaith ei hybu ymysg yr ifanc.”
Mae’r Gymdeithas yn annog cyfraniadau gan y cyhoedd a chymunedau i’r maniffesto ar Twitter trwy ddefnyddio’r hashnod #maniffestobyw, neu e-bostio post@cymdeithas.org, fel bod modd datblygiadau’r syniadau ymhellach. Ychwanegodd Toni Schiavone llefarydd cymunedau’r Gymdeithas:
“Nid oes diben eistedd yn ôl a derbyn canlyniadau’r Cyfrifiad: gydag ymgyrchu cadarnhaol ac ewyllys gwleidyddol, gallwn ni newid tynged yr iaith Gymraeg. Nid ydym fel cymdeithas yn honni mai ni sydd piau’r holl atebion, felly byddwn ni’n annog cymunedau ac unigolion i ychwanegu at y syniadau yn ein maniffesto. Heb amheuaeth, mae angen cyfres o bolisïau clir a dewr gan Lywodraeth Cymru ym mhob maes, ond yn arbennig ym meysydd addysg, cynllunio, tai a’r gweithle er mwyn gwrth-droi’r dirywiad. Wrth gydnabod difrifoldeb y sefyllfa, rydym yn agor ein syniadau i drafodaeth ac yn gobeithio ennyn diddordeb pobl ledled y wlad.”