Dros 200 yn galw am Ddeddf Iaith Newydd!

Ble mae'r Gymraeg?Daeth dau gant o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i Rali Calan y Mudiad gynhaliwyd yng Nghaerdydd heddiw. Yn y rali datganodd Steffan Webb, Rheolwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, ei gefnogaeth i Ddeddf Iaith Newydd.

Yna dan arweiniad Catrin Dafydd, arweinydd Ymgyrch Deddf Iaith y Gymdeithas, gorymdeithiodd dau gant o ymgyrchwyr ar hyd Heol y Frenhines, Caerdydd gan dargedu siopau Orange, Woolwich, Dixons a Starbucks (ymysg eraill) gyda sticeri gludiog yn galw am Ddeddf Iaith.03-ralicalandin06.JPGAddawodd rheolwyr y siopau uchod gyfarfod dirprwyaeth o’r Gymdeithas i drafod polisiau iaith eu cwmniau.15-ralicalandin06.JPGDros yr wythnosau nesaf bydd y Gymdeithas yn canolbwyntio ar lobio dros Ddeddf Iaith.Y garreg filltir nesaf fydd Cyfarfod Cyhoeddus yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd ar Ionawr y 24. Agorir y cyfarfod hwn gan John Elfed Jones, cyn gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg a bydd yr Athro Colin Williams, Eleanor Burnham AC, Owen John Thomas AC, Lisa Francis AC ac Emyr Lewis y cyfreithiwr o Abertawe yn cymryd rhan.Ymddengys fod y Blaid Lafur yn gwrthod cymryd rhan. Mewn llythyr at Catrin Dafydd fe ddywed Anthony Cooper swyddog polisi y Blaid Lafur:"Yn anffodus ni fydd Rosmary Butler (Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant) NAC UNRHYW AELOD LLAFUR ARALL mewn sefyllfa i fod yn bresennol yn eich digwyddiad.”Ni roddir unrhyw eglurhad am hyn.Pwyswch yma i weld mwy o luniau o'r digwyddiadStori oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori oddi ar wefan y Daily Post