Dros 500 yn Rali'r Cyfrif - Safiad Sir Gâr heddiw

Er gwaethaf y tywydd gaeafol, daeth dros 500 o bobl o bob rhan o Sir Gaerfyrddin i Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin fore Dydd Sadwrn 19eg Ionawr 2013 er mwyn arwyddo Adduned “Dwi eisiau Byw yn Gymraeg” a chlywed rhai o bobl adnabyddus ac amlwg Sir Gaerfyrddin yn nodi pam eu bod nhw'n cymryd “Munud i Addunedu”.

Pwyswch yma i weld lluniau (cymdeithas.org) Neu yma am fwy o luniau gan lleucu Meinir (Facebook)

Yn eu mysg oedd yr actor teledu a ffilm Julian Lewis-Jones a ddywedodd:

"Y rheswm mwyaf am i ni ddod i Sir Gaerfyrddin fel teulu i fyw, oedd yr iaith a'r diwylliant Cymraeg. Roeddwn i eisiau i fy mhlant gael eu magu mewn ardal Gymraeg, lle roedd yr iaith yn hollol naturiol. Mae ffigyrau'r cyfrifiad wedi fy nychryn fel unigolyn ac fel rhiant. Mae gennym ni gyd gyfrifoldeb i sicrhau bod ein hiaith yn cael ei siarad a'i glywed ym mhobman! Dwi'n hynod o falch o fod yn Gymro Cymraeg, a dwi'n benderfynol i barhau i fyw fy mywyd yn iaith y nefoedd!"

Bu band ifanc lleol Bromas hefyd yn diddanu'r dorf ar gychwyn y rali ac yn arwain gorymdaith mawr o gannoedd o bobl at swyddfeydd Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Sioned Elin, Cadeirydd Rhanbarth Sir Gâr Cymdeithas yr Iaith, a oedd hefyd yn siarad yn ystod y rali:

"Mae canlyniadau'r Cyfrifiad wedi dangos gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg ar draws Cymru, a'r gostyngiad mwyaf yma yn Sir Gaerfyrddin. Rwy'n falch bod dros 500 o bobl wedi dod i ddangos eu cefnogaeth i'r rali – mae'n hollol amlwg fod pobl Sir Gâr eisiau byw yn Gymraeg. Dim ond y cam cyntaf yw hwn. Mewn cyfarfod yn dilyn y rali fe wnaethom drafod camau nesaf yr ymgyrch yma yn Sir Gâr. Byddwn yn parhau i bwyso ar y Llywodraeth a'r Cyngor Sir i'n galluogi i fyw yn Gymraeg, a'n gobaith yw y bydd dros fil o bobl y sir wedi llofnodi'r Adduned cyn diwedd y mis. Roedd y rali yn ddechreuad da gyda dros 400 yn arwyddo yn ystod y bore!"