Yn ystod y cyflwyniad, a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith, dywedodd Ffred Ffransis ar ran y Gymdeithas "Os gall y cyngor lleol gau Ysgol boblogaidd, orlawn fel Bodffordd sydd yn rhif un ar restr y llywodraeth o ysgolion gwledig Cymru, yna does dim un ysgol wledig yn ddiogel a gall fod cyflafan yn ein cymunedau gwledig Cymraeg. Rydyn ni fel Cymdeithas wedi canmol y Gweinidog Addysg am roi gobaith newydd i ysgolion gwledig, ond mae penderfyniad Cyngor Môn i anwybyddu'r côd yn llwyr yn dwyn anfri ar y ddemocratiaeth Gymreig ifanc a gynrychiolir gan y senedd hon. Maen nhw wedi anwybyddu'r broses gywir o ran ymgynghori, wedi anwybyddu barn rhieni, ac wedi gwrthod hyd yn oed ystyried yr opsiynau eraill fel y mae'r gyfraith yn gofyn ganddynt. Mae'n her uniongyrchol i'r Gweinidog ac mae angen iddi ymateb neu bydd colli pob ffydd mewn prosesau democrataidd."
Geiriad y ddeisieb:
Galwn ar y Llywodraeth i gymryd camau i sicrhau y bydd awdurdodau lleol yn dilyn canllawiau'r cod trefniadaeth ysgolion presennol a'r cod newydd (pan ddaw i rym) gan gynnwys gweithredu'n unol â'r rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig. Derbyniwn nad yw hyn yn golygu na chaiff ysgol wledig byth ei chau, ond mae penderfyniad diweddar Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn i gau ysgol Bodffordd yn dangos bod rhwydd hynt i awdurdodau lleol anwybyddu'r cod newydd (y maent i fod i weithredu yn unol â'i ysbryd) a chau hyd yn oed ysgolion poblogaidd a llawn.