Dryswch Llywodraeth dros Deddf Iaith Newydd

Rhodri Morgan Bore yma bu aelodau o Rhanbarth Gwynedd-Môn Cymdeithas yr Iaith yn picedi Rhodri Morgan a oedd yn ymweld â Chaernarfon. Roedd y Gymdeithas yno i danlinellu'r angen am ddeddf iaith gynhwysfawr.Pwyswch yma i weld fideo o'r biced - dailypost.co.uk

Pan ofynwyd i Rhodri beth oedd yr amserlen ar gyfer y Ddeddf Iaith arfaethedig, ac a fyddai'n effeithio ar y sector breifat, atebodd na fyddai'n cynnwys y sector breifat o gwbwl, ac nad oedd unrhyw amserlen ar gyfer deddfu dros y Gymraeg. Aeth ymlaen wedyn i ail-adrodd hyn ar raglen Radio Cymru, Taro'r Post.Mae'r datganiad hwn yn mynd yn groes i'r hyn a ddywedwyd gan Rhodri Glyn y Gweinidog Treftadaeth yn ddiweddar, sef y bydd y Llywodraeth yn cychwyn y broses eleni. Mae Cymdeithas yr Iaith yn bryderus fod aelodau Llafur a Phlaid Cymru o'r Llywodraeth yn gwrth ddweud ei gilydd ar y mater. Meddai Osian Jones, Swyddog Maes Cymdeithas yr Iaith yn y Gogledd:"Yn sgil sylwadau Rhodri Morgan heddiw, galwn am ddatganiad clir a diamwys o gynlluniau'r llywodraeth ym maes deddfu ieithyddol. Mae'n hollol hanfodol na fydd y ddeddf iaith newydd yn un ddi-werth a di-ddanedd."Gwahoddwyd Rhodri Morgan i fynd ar daith o amgylch tref Caernarfon er mwyn dangos iddo'r diffyg arwyddion Cymraeg mewn siopau fel Iceland, Argos, Peacocks a Morrissons sy'n dangos yn glir fethiannau'r ddeddf bresennol. Ychwanegodd Osian Jones:"Mae'r Gymdeithas wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn difaterwch cwmnïau mawr rhyngwladol ers degawdau bellach. Mae hi'n amlwg nad yw'r ewyllys da, y mae Rhodri Morgan mor hoff o son amdano, yn bodoli. Rydym ni fel mudiad wedi bod yn lobio a phwyso ar Lywodraeth y Cynulliad i sicrhau deddfwriaeth fydd yn berthnasol i Gymru'r Unfed Ganrif ar Hugain. Credwn mai dim ond deddfwriaeth gref, sy'n cynnwys y sector breifat, sy'n angenrheidiol at ddiogelu dyfodol y Gymraeg."I can champion Welsh language - dailypost.co.uk - 12/01/08